Mae Storm Bert wedi effeithio ar lawer o gartrefi ym Blaenau Gwent ac mae preswylwyr bellach yn wynebu’r weithred dorcalonnus o lanhau.
Cafodd y dudalen hon ei chreu er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rheini a effeithiwyd ynghylch beth i’w wneud nesaf. Gallwch hefyd roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen arnoch wrth gwblhau ein ffurflen ar-lein.
Am help a chymorth gyda’n ffurflen neu os oes unrhyw ymholiadau gennych ffoniwch ni ar 01495 311556.
Cronfa Cymorth Dewisol
Os gafodd eich eiddo ei effeithio gan y llifogydd diweddar, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am grant o’r Gronfa Cymorth Dewisol oddi wrth Lywodraeth Cymru i dalu am unrhyw gostau perthnasol a allai fod wedi dod ar eich rhan.
Gellir cael gwybodaeth bellach a chyngor am sut i ymgeisio yma.
Ymgeisio am y Gronfa Cymorth Dewisol
Cadarnhewch a oes modd ichi ddychwelyd adref
- Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref, gwiriwch gyda'r gwasanaethau brys ei fod yn ddiogel cyn i chi ddychwelyd.
- Efallai y bydd angen archwiliad diogelwch ar eich cartref neu fusnes hefyd gan y cwmnïau cyfleustodau cyn cael y dŵr, y nwy a’r trydan yn ôl i weithio eto.
Glanhau ac atgyweirio eich cartref
- Mynnwch gyngor gan arbenigwyr cyn dechrau atgyweirio eich eiddo. Bydd angen i'r rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio ar ôl llifogydd gael ei wneud gan weithwyr proffesiynol sy'n cael eu penodi gan eich yswirwyr.
- Gall dŵr llifogydd gynnwys sylweddau niweidiol fel carthffosiaeth, cemegau a gwastraff anifeiliaid a allai eich gwneud chi'n sâl. Os byddwch chi'n dod i gysylltiad â llifddwr, golchwch eich dwylo'n drylwyr.
- Wrth lanhau'ch cartref ar ôl llifogydd, gwisgwch fenig, mwgwd wyneb ac esgidiau cadarn. Sut mae glanhau'ch cartref yn ddiogel ar ôl llifogydd.
- Cyn i chi ddechrau glanhau, tynnwch luniau i ddogfennu difrod a chofnodi uchder y llifddwr. Gofynnwch i'ch yswiriwr cyn taflu eitemau nad oes modd eu glanhau, fel matresi a charpedi.
- Os ydych chi'n defnyddio gwresogyddion neu ddadleithyddion i sychu'ch eiddo, gwnewch yn siŵr bod awyru da. Peidiwch byth â defnyddio generaduron sy'n cael eu pweru gan betrol neu ddisel y tu mewn - gall eu nwyon gwacáu fod yn angheuol.
- Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am adfer pethau yn sgîl llifogydd, megis cael gwared ar fagiau tywod wedi'u defnyddio neu ddodrefn wedi'u difrodi, cysylltwch â ni ar 01495 311556.
- Gwagiwch oergelloedd a nwyddau gwyn cyn eu rhoi allan i'w casglu - mae modd ichi trefnu casgliad am ddim uchod.
- Wrth glirio pridd a malurion, ceisiwch osgoi eu hysgubo i lawr y draen oherwydd gallai hyn rwystro'r system ddraenio. Casglwch falurion a'u rhoi yn eich gwastraff cartref i'w gasglu.
Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd yn y dyfodol
- Er mwyn lleihau difrod llifogydd, fe allech chi ystyried gosod teils yn lle carpedi, symud socedi trydanol yn uwch i fyny'r waliau a gosod falfiau nad ydyn nhw'n dychwelyd.
- Mae dod o hyd i gyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau llifogydd ar yTudalennau Glas.
- Darllenwch yFforymau Llifogydd Cenedlaethol cyngor arsut i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd.
Cymorth gan sefydliadau eraill:
- Mae gwefan GOV.UK a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Mae Cymorth Ariannol hefyd ar gael trwy Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru, mae gwybodaeth ar gael yma -https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf.
- Mae Asda yn cynnig cefnogaeth trwy eu Cronfa Argyfwng, mwy o wybodaeth yma - https://www.asdafoundation.org/how-to-apply
Rhifau defnyddiol
Canolfan Gyswllt – 01495 311556
Nwy Cenedlaethol - 0800 111 999
Argyfwng Trydan – National 105
Dŵr Cymru - 0800 085 3968