
Mae'r Siop Ailddefnyddio Big Den yng Nglynebwy wedi bod ar agor ers ychydig ddyddiau ac mae cwsmeriaid wedi bod yn hedfan drwy'r drysau! Cymaint felly, mae angen rhoddion o stoc arnynt!
Ymwelodd Aelodau'r Cabinet, y Cynghorwyr Tommy Smith a John Morgan, yr wythnos hon i weld y siop a darganfod gwaith gwych elusen Wastesavers.
Mae'r siop wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu New Vale , Ystâd Ddiwydiannol Waun-y-Pound.
Oriau agor yw 9:30yb i 4:30yp o ddydd Sadwrn i ddydd Mercher, gyda rhoddion yn cael eu derbyn hyd at 3yp. Sylwch mai dim ond mewn cerbyd y gellir cyrraedd y safle. Digon o barcio ar y safle i ymweld a chael bargen 😊
Darganfyddwch fwy am yr hyn y gallwch ei roi yma: https://wastesavers.co.uk/reuse/your-local-reuse-shop/