Dweud eich dweud am fywyd ym Mlaenau Gwent

Mae pobl ar draws Blaenau Gwent yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn arolwg trigolion eleni. 

Mae'r arolwg trigolion Let's Talk: Living in Blaenau Gwent yn cael ei gynnal o ddydd Llun 14 Medi tan ddydd Sul 25 Hydref 2026, gan roi cyfle i drigolion rannu eu barn ar bopeth o'u hardal leol a gwasanaethau cyngor i fywyd cymunedol, lles a democratiaeth leol. 

Gallwch gymryd rhan drwy ymweld â Cymryd Rhan Blaenau Gwent, platfform ymgynghori ac ymgysylltu y cyngor. 

Mae'r arolwg yn rhan o'r Arolwg Cenedlaethol o Breswylwyr a drefnwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae'n cael ei gynnal gan lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan, bydd copïau papur a fersiynau hawdd eu darllen o'r arolwg hefyd ar gael o Hybiau Cymunedol y cyngor mewn llyfrgelloedd yn Abertyleri; Blaenau; Cwm; Glyn Ebwy; Brynmawr a Thredegar a hefyd Sefydliad Glowyr Llanhiledd.

Gallwch hefyd godi arolwg o'r Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy. 

Mae'r arolwg eleni yn cynnwys cwestiynau am fywyd cymunedol, megis sut mae pobl yn teimlo yn gysylltiedig â'u hardal leol, a ydyn nhw'n teimlo'n rhan o'u cymuned a beth allai eu hannog i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau lleol a gwirfoddoli.

Bydd yr adborth yn helpu i gefnogi nodau Bargen Blaenau Gwent i greu cymunedau ffyniannus, cysylltiedig lle gall pobl fyw'n dda a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

"Mae barn ein trigolion yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a ble mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion. Mae'r arolwg Let's Talk: Living in Blaenau Gwent yn rhoi cyfle uniongyrchol i bobl ledled y fwrdeistref ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

"Mae pob ymateb yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr sy'n ein helpu i gynllunio gwasanaethau, cryfhau cymunedau a chyflawni ein blaenoriaethau sy'n gysylltiedig â Bargen Blaenau Gwent ac Egwyddorion Marmot i leihau anghydraddoldeb. 

"Rwy'n annog trigolion o bob oed a chefndir i gymryd rhan. Trwy rannu eich barn, gallwch helpu i lunio dyfodol Blaenau Gwent a sicrhau bod gwasanaethau lleol yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau."

Gall preswylwyr gwblhau'r arolwg rhwng 14 Medi a 25 Hydref.