Cynhadledd Cymraeg i Bawb 2024

Ar y 15fed o Fawrth 2024 bu Blaenau Gwent yn ffodus i weld y gynhadledd Cymraeg i Bawb gyntaf yn digwydd yn Nhŷ Bedwellty.

Mae Cymraeg i Bawb yn wefan cyflawn a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cwmpasu'r holl ddarpariaeth addysg Gymraeg ym mhob Bwrdeistref.

Dewisodd y trefnwyr Tŷ Bedwellty fel y lleoliad delfrydol ar gyfer digwyddiad o'r fath gan ei fod yn cynnal ystafell ddosbarth cyntaf Ysgol Gymraeg Tredegar ar hyn o bryd. Bydd y dosbarth yn symud i'r ysgol newydd pan fydd yn dechrau gweithredu’r y flwyddyn nesaf.

Cyflwynodd Mrs Toghill, Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn y gynhadledd, mae hi wedi bod ar flaen y gad o gynllunio'r Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ac yn gweithio'n agos gyda'r Fforwm Cymraeg mewn Addysg i gyflawni eu Cynllun Strategol (Cynllun Strategol Mewn Addysg)

Dywedodd Mrs Toghill "Roedd yn hanfodol agor Ysgol Gymraeg Tredegar oherwydd bod gennym dystiolaeth nad oedd plant yn parhau o Gylch Meithrin Gymraeg i'r ysgol Gymraeg oherwydd y pellter o ardal Tredegar i Flaina lle mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Cynigir meithrin llawn amser, drwy'r dydd, sydd yn helpu plant i ddysgu'r Gymraeg yn gyson ac iddynt ddysgu'r iaith yn gyflym. Mae Clwb Brecwast yn y ddau ysgol a gall plant o'r Meithrin i fyny gael cludiant i'r ysgol os ydynt yn byw 1.5 milltir o'r ysgol. Bydd adeilad newydd sbon Ysgol Gymraeg Tredegar yn agor ar Ffordd Siarter yn haf 2025. Mae gwefan newydd Cymraeg i bawb yn bwysig i sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â hyrwyddo'r Gymraeg yn ymwybodol o'r gwaith sy'n digwydd ar draws y rhanbarth a gallant gysylltu â rhwydweithio'n hawdd.”

Cyflwynodd Mrs Toghill, Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Helyg

Bu'r gynhadledd yn llwyddiannus wrth arddangos manteision ac chyfleoedd addysg Gymreig. Mynychodd y digwyddiad nifer o sefydliadau sy'n cefnogi datblygiad y Gymraeg. Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan Ysgol Gymraeg Tredegar ac Ysgol Gymraeg Bro Helyg, yn ogystal â gweithdai ar ymgorffori iaith Gymraeg, dwyieithoedd, a chyfathrebu rhieni. Roedd yr adborth gan y mynychwyr yn gadarnhaol iawn ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r wefan newydd Cymraeg i Bawb, sy'n anelu at hyrwyddo a hwyluso dysgu a defnyddio'r Gymraeg ar draws pob sector a chymuned.

Gweler y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg am fwy o wybodaeth ac am addysg Gymraeg ym Mlaenau Gwent.

Os hoffech dysgu Cymraeg, mae Dysgu Cymraeg Gwent yn cynnig gwahanol gyrsiau Cymraeg y mae llawer o staff ein Cyngor wedi ymuno yn barod. Mae'r cwrs Cymraeg Gwaith ar-lein rhad ac am ddim i'r holl staff, e-bostiwch Vikki.alexander@blaenau-gwent.gov.uk am fwy o fanylion.

Am fwy o wybodaeth i anfon eich plentyn i Ysgol Gymraeg Tredegar neu Ysgol Gymraeg Bro Helyg, cysylltwch â thîm Trawsnewid Addysg Blaenau Gwent, Cofrestriadau Ysgol:

Rhif Ffon: (01495) 355493/ (01495) 355340

Ebost: schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk