Mae tîm Strydlun y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r contractwyr arbenigol Touchline ar adnewyddu ac atgyweirio ardal y plant yng Nglyncoed, Glynebwy sydd bellach ar agor i'r cyhoedd ei mwynhau.
Mae'r ardal chwarae bellach yn cynnwys cynlluniau llawr arloesol, fel nadroedd ac ysgolion, ynghyd â gwelliannau i'r offer presennol. Mae'r ardal chwaraeon a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed a phêl-rwyd hefyd wedi’i gwella'n sylweddol. Mae'r lluniau ‘cyn ac ar ôl’ isod yn dangos y llinellau clir a’r lliwiau llachar sy’n dynodi’r arwynebau a’r mannau chwarae.
Sicrhawyd cyfanswm o £32,000 drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer yr adnewyddu.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Mae ardaloedd chwarae awyr agored yn bwysig iawn i blant a theuluoedd lleol. Rydym yn falch o gyhoeddi bod ardal chwarae Glyncoed yn ailagor mewn pryd ar gyfer dechrau'r gwyliau ysgol, yn dilyn gwaith atgyweirio ac adnewyddu yr oedd mawr ei angen."
![]() |
![]() |
Lluniau ‘cyn ac ar ôl’ o'r ardal chwaraeon. |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|
Yr ardal chwarae sydd newydd ei hadnewyddu a'i hatgyweirio yng Nglyncoed. |