Gwaith yn mynd rhagddo ar adeiladu ysgol Gymraeg yn Nhredegar

Mae’r gwaith wedi dechrau ar adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar.

Disgwylir gorffen adeiladu’r ysgol yng ngwanwyn 2025, fodd bynnag sicrhawyd darpariaeth dros dro ar gyfer disgyblion fydd yn mynychu’r ysgol newydd (Ysgol Gymraeg Tredegar) yn Nhŷ Bedwellte, lle byddant yn cael eu dysgu nes bydd yr adeilad newydd yn agor.

Mae’r ysgol egin 210-lle, sy’n cynnwys darpariaeth gofal plant, yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu cyfleoedd am addysg Gymraeg yn y fwrdeistref sirol. Caiff yr ysgol a’r cyfleuster gofal plant ar y safle eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Er bod yr amcangyfrifon cost dechreuol wedi codi oherwydd costau cynyddol sy’n effeithio ar brosiectau ym mhob rhan o’r wlad, bydd y gwaith adeiladu yn dal i gael ei gyllido o ffynonellau cyllid allanol a grantiau.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi ei ffederaleiddio gyda Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ysgol gynradd Gymraeg bresennol y fwrdeistref sirol, a bydd yn rhannu’r un Corff Llywodraethu a  Phennaeth. Mae gan Ysgol Gymraeg Tredegar gartref dros dro ar hyn o bryd yn Nhŷ Bedwellte nes caiff yr adeilad newydd ei gwblhau.

Bydd yr ysgol yn galluogi’r Cyngor i ateb y galw cynyddol am ofal plant a lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, ardal chwarae coedwig, perllan dyfu a dolydd blodau gwyllt. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwybodol o’r hinsawdd gyda phaneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan.

Caiff ardal chwarae ar y safle ei symud i fan arall ar yr un safle a gosodir offer chwarae newydd arno. Mae gwaith gan Wickstead ar hyn eisoes wedi dechrau.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Rydym yn hynod falch i fod wedi penodi ISG Cyf ar gyfer y prosiect allweddol hwn wrth i ni barhau i symud ymlaen gyda’n cynlluniau cyffrous ar gyfer addysg Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Rydym eisiau cynnig mwy o ddewis a chyfleoedd i rieni a gofalwyr pan ddaw i addysgu eu plant a helpu i dyfu’r iaith yma yn y fwrdeistref sirol. Bu’n ddechrau gwych i’r plant yn eu cartref dros dro yn Nhŷ Bedwellte a mae pawb ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at agor yr adeilad newydd fydd yn rhoi amgylchedd dysgu modern ac ansawdd uchel yn y Gymraeg ar gyfer ein disgyblion ieuengaf.

“Nid yw hi byth yn rhy hwyr i feddwl am roi addysg Gymraeg i’ch plentyn, ac mae digon o wybodaeth ar gael ar yr adran Ysgolion a Dysgu ar wefan ein Cyngor.”

Mae’r Pennaeth, Ms Ann Toghill, yn edrych ymlaen at gwblhau’r adeilad newydd ar Chartist Way, Tredegar. Dywedodd:

“Rydym yn falch iawn i fod wedi sefydlu dosbarth cyntaf Ysgol Gymraeg Tredegar yn Nhŷ Bedwellte lle bu staff yn groesawgar tu hwnt. Bydd ein hail garfan yn dechrau eu cyfnod gyda ni yn y safle dros dro fis Medi nesaf ond edrychwn ymlaen at symud i adeilad newydd yr ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd honno.

“Mae hwn yn gyfnod gwych ar gyfer addysg Gymraeg ym Mlaenau Gwent a rydym yn falch fod ein staff a disgyblion yn Ysgol Gymraeg Tredegar eisoes wedi gwneud eu hunain yn rhan bwysig o’r gymuned.”

Bydd yr ysgol newydd yn dechrau fel ‘darpariaeth egin’ gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu darpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2025.

I gael mwy o wybodaeth am ddwyieithrwydd a thaith addysg Gymraeg ewch i:

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/schools-learning/becoming-bilingual/