Teithi Busnes - gostyngiadau

Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yng Nghymru 2026/27

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod i fusnesau cymwys ar gyfer 2026-27.

Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw.

Nod y cynllun yw rhoi cymorth i eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 15% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.

Bydd y rhyddhad yn berthnasol i bob busnes cymwys, ond bydd y rhyddhad yn amodol ar uchafswm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru.

Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo a feddiennir gan yr un busnes. 

Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y mae’n ei geisio ledled Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol. 

BYDD MANYLION YCHWANEGOL A FFURFLEN GAIS AR GAEL YMA YN FUAN.

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru

Daeth cynllun parhaol newydd i rym ar 1 Ebrill 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • bydd safleoedd busnes cymwys gyda gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn derbyn rhyddhad 100%; a
  • bydd rhai gyda gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad ar sail tapr o 100% i sero.

Bydd y mathau dilynol o fusnes yn parhau i gael rhyddhad fel sy’n dilyn:

Safleoedd Cofrestredig Gofal Plant

Caiff y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ar gyfer darparwyr gofal plant ei gynyddu i roi rhyddhad 100% i bob darparydd cofrestredig gofal plant yng Nghymru. Dechreuodd y lefel uwch hwn o ryddhad ar 1 Ebrill 2019.

Swyddfeydd Post

  • Swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn derbyn rhyddhad 100%
  • Swyddfeydd post gyda gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad 50%

Terfyn Amlfeddiannaeth

Lle mae trethdalwr yn atebol am fwy na dau eiddo ar un rhestr ardrethi annomestig leol (“rhestr leol”) ac mai dim ond amodau gwerth ardrethol y mae’r eiddo hynny yn ei gyrraedd, dim ond am uchafswm o ddau eiddo o’r fath y bydd y talwr ardrethi yn derbyn rhyddhad.

Rhyddhad Trosiannol

Ar gyfer eiddo sy’n cymhwyso, dim ond am atebolrwydd ardrethi annomestig o fewn y cyfnod 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 y bydd rhyddhad trosiannol ar gael.

Mae canllawiau ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi Trosiannol yn awr ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Sut i wneud cais

Os ydych yn gymwys, caiff rhyddhad ardrethi trosiannol ei roi yn awtomatig ar eich bil felly ni fydd angen i chi wneud cais amdano. 

Eiddo Gwag neu a Ddefnyddir yn Rhannol / Eiddo Eithriedig

Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Eiddo Gwag

Caiff eiddo busnes gwag eu heithrio rhag talu ardrethi busnes am 3 mis ar ôl i’r eiddo ddod yn wag. Mae eithriadau ychwanegol ar gyfer rhai mathau o eiddo dan werth ardrethol penodol. Mae’r rhaib yn cynnwys:

  • safleoedd diwydiannol, tebyg i warysau, sydd wedi eu heithrio am 3 mis pellach
  • adeiladau rhestredig sydd wedi eu heithrio nes cânt eu defnyddio eto
  • adeiladau gyda gwerth ardrethol dan £2,600 sydd yn eithriedig nes cânt eu defnyddio eto
  • adeiladau y mae’r elusennau yn berchen arnynt, sydd wedi eu eu heithrio os yw defnydd nesaf yr adeilad yn debyg o fod yn gyfangwbl neu’n bennaf ar gyfer dibenion elusennol
  • adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol sydd yn eithriedig os yw eu defnydd nesaf yn debygol o fod yn gyfangwbl neu’n bennaf ar gyfer clwb chwaraeon
  • busnes y mae ei berchennog yn gwmni sy’n destun gorchymyn dirwyn i ben a wnaed dan Ddeddf Ansolfedd 1986 sy’n cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol dan y Ddeddf honno
  • busnes y mae ei berchennog yn cwmni yn nwylo gweinyddwyr o fewn ystyr 1 Atodlen B1 Deddf Ansolfedd 1986 neu sy’n destun gorchymyn gweinyddiaeth a wnaed dan y darpariaethau gweinyddiaeth blaenorol o fewn ystyr erthygl 3 Gorchymyn Deddf Menter 2002 (Dechreuad Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2003
  • busnes y mae gan ei berchennog hawl i feddiant yn unig yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd personol person sydd wedi marw.

Ar ôl i’r cyfnod eithrio ddod i ben, byddwch yn atebol am y bil ardrethi busnes llawn. Dylech hysbysu eich awdurdod lleol pan ddaw eich eiddo yn wag a hefyd pan fydd cael ei ddefnyddio eto.

 

Rhyddhad ardrethi ar gyfer Eiddo a Ddefnyddir yn Rhannol (Adran 44A)

Lle ymddengys i’r awdurdod mai dim ond rhan o eiddo sy’n wag, ac y bydd yn parhau felly am gyfnod byr, yna gall yr awdurdod ofyn i’r Swyddfa Prisio ddyrannu’r gwerth ardrethol ac felly godi ardrethi ar y rhan a ddefnyddir. Dylid nodi y gall y rhan nas defnyddir ddal i fod yn atebol am ffi ardrethi eiddo gwag.

Os ydych angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Ardrethi Busnes ar 01495 363900

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â’r Adran Ardrethi Busnes

Rhif Ffôn: 01495 363900
Cyfeiriad: Adran Refeniw, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

Cyfeiriad E-bost: nndr@blaenau-gwent.gov.uk