Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ailasesu a diweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo busnes yn rheolaidd, fel arfer bob pum mlynedd. Gelwir hyn yn Ailbrisio. Gwneir hyn er mwyn cynnal tegwch yn y system trwy ailddosbarthu'r cyfanswm sy'n daladwy mewn ardrethi busnes, gan adlewyrchu'r newidiadau yn y farchnad eiddo. Nid yw ailbrisio yn cynhyrchu refeniw ychwanegol ar y cyfan.
I gael rhagor o wybodaeth am Ailbrisio, gwerthoedd ardrethol, a threthi busnes yn 2017, ewch i www.gov.uk.
Gallwch hefyd amcangyfrif eich bil ardrethi busnes, gan gynnwys unrhyw ryddhad ardrethi busnesau bach a allai fod yn berthnasol
Cymorth Pontio
Yn dilyn ailbrisiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar drethi annomestig yn 2017, gweithredir cymorth pontio i gefnogi trethdalwyr yr effeithir ar eu cymhwyster am Gymorth Trethi Busnesau Bach (SBBR) fel canlyniad i'r ailbrisiad.
Cyflwynir y cynllun cymorth pontio i gynorthwyo trethdalwyr sy'n derbyn SBRR ar 31 Mawrth 2017, sy'n profi gostyngiad yn y canran o SBRR mae ganddynt hawl iddo ar 1 Ebrill 2017, oherwydd cynnydd yn eu gwerth trethiannol yn dilyn yr ailbrisiad. Yr unig amod i hyn yw bod yn rhaid i effaith tynnu/gostyngiad SBRR weld cynnydd o dros £100.00 yn y bil. Os yw'n llai na £100.00 yna ni fydd unrhyw hawl i gymorth pontio gan yr ystyrir ei fod yn de-minimus.
Gweithredir SBBR cyn cymorth pontio. Bydd y cymorth pontio yn gweithio drwy gyflwyno unrhyw gynnydd dilynol mewn ymrwymiad mewn camau dros gyfnod o 3 blynedd (25% o ymrwymiad uwch ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2 a 75% ym mlwyddyn 3).
Trethdalwyr cymwys yw'r rhai sy'n:
- symud o SBRR llawn i SBRR rhannol
- symud o SBRR llawn i ddim SBRR
- symud o SBRR rhannol i ddim SBRR
- aros o fewn SBRR rhannol ond yn gweld cynnydd mewn gwerth trethiannol