Cerrig Coffa Aneurin Bevan

Mae’r cerrig yn nodi ble roedd Aneurin Bevan, AS Llafur a phensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn annerch ei etholwyr a’r byd. Gwelwyd tyrfau anferth ar ochr y bryn gyda phawb yn awyddus i glywed un o’r areithwyr gorau erioed. Mae’r monolith yn y canol yn cynrychioli Bevan gyda’r 3 llai yn cynrychioli Rhymni, Tredegar a Glynebwy, y 3 tref yn ei etholaeth.

Mae’r cerrig hefyd yn nodi cychwyn Taith Gerdded Cwm Sirhowy. Gellir gweld ffilm yn adrodd stori Bevan a’i frwydr gyda siarad yn gyhoeddus yn Nhŷ Bedwellty.

Y Tŷ yw hefyd y pwynt cychwyn ar gyfer Llwybr Aneurin Bevan sy’n cynnwys safleoedd sy’n gysylltiedig â Nye.

Gwybodaeth Gyswllt

Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN  
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk