Meddwl eich bod yn gwybod am Brydau Ysgol?
Ni fu prydau ysgol yng Nghymru erioed mor faethlon ac amrywiol. Yma ym Mlaenau Gwent rydym yn bwydo miloedd o ddisgyblion cynradd ac uwchradd bob dydd, yn ogystal â staff ac ymwelwyr.
Yn unol â safonau Llywodraeth Cymru mae gennym lai o fraster, siwgr a halen yn ein rysetiau, a mwy o ffibr a ffrwythau a llysiau, ymysg llawer o welliannau eraill. Mae maeth yn bwysig i ni a gellir ymddiried yn ein prydau ysgol i gyfrannu’n sylweddol ar ddiet iach pobl ifanc.
Ond dim ond hanner y frwydr fu gwneud y bwyd a ddarparwn mewn ysgolion yn iachach. Mae’n rhaid i bobl ifanc fod eisiau eu bwyta a sicrhawyd hyn gyda gwaith caled a brwdfrydedd timau arlwyo yr holl ysgolion ar draws Blaenau Gwent ac, wrth gwrs, fewnbwn gwerthfawr ein disgyblion.
Yr hyn y gallwch ddisgwyl ei weld yn ein hysgolion:
• Ffrwythau bob dydd
• Llysiau a/neu salad bob dydd
• Pwdin seiliedig ar ffrwythau o leiaf ddwywaith yr wythnos
• Pysgod bob wythnos
• Pysgod seimllyd o leiaf unwaith mewn 3 wythnos
• Toriadau cig o leiaf ddwywaith yr wythnos yn ein hysgolion cynradd a dair gwaith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd
• Dim halen ychwanegol
• Dim bwydydd melys, tebyg i fariau siocled, bariau grawnfwyd a melysion na chreision
• Cyfyngu cynnyrch tatws a thatws wedi’u coginio mewn saim neu olew (dim mwy na dwywaith yr wythnos)
• Cyfyngu bwyd wedi ei ffrio’n ddwfn neu ei fflach ffrio (dim mwy na ddwywaith yr wythnos)
• Cyfyngu cynnyrch cig wedi’i brosesu
• Siopau ffrwythau yn ein holl ysgolion cynradd
• Llaeth am ddim ar gyfer pob disgybl meithrin a phlant bach
• Brecwast iach am ddim ym mwyafrif ein hysgolion cynradd
• Hyrwyddo llaeth a dŵr fel fod y gorau ar gyfer iechyd dannedd
Heblaw am faeth, mae ysgolion bach yn cynnig llawer o fuddion eraill:
• Cyfleuster – arbed amser yn y bore drwy beidio gorfod paratoi cinio pecyn, a dim pryderon am gadw bwyd yn ffres a diogel tan amser cinio
• Y cyfle i roi cynnig ar fwydydd newydd
• Porthi gallu canolbwyntio plant a’u gallu i gyflawni’n dda yn yr ysgol
• Hyrwyddo sgiliau cymdeithasol plant, moesgarwch wrth y bwrdd a’u gallu i wneud dewisiadau bwyd gwybodus mewn amgylchedd diogel, dan arolygiaeth gyda chyfeilion
• Mwynhau bwydlenni thema hwyl megis pryd arbennig Dydd Gŵyl Dewi
• Gwerth gwych am arian
Prydau Ysgol neu Giniawau Pecyn
Amser ailfeddwl am giniawau pecyn?
Ni roddodd ymchwil gan Brifysgol Leeds ddarlun cadarnhaol o gynnwys maeth ciniawau becyn o gymharu â phrydau ysgol, gyda llai na 2% o giniawau pecyn yn cyrraedd safonau prydau ysgol, gyda lefelau yn gostwng o ran Fitamin C, Fitamin A a sinc dros y blynyddoedd.
O gymharu, caiff bwydlenni ysgolion cynradd eu dadansoddi o ran maeth gan ddietegydd ein timau i sicrhau fod bwydlenni’n cynnig 1/3 o ofynion dyddiol disgyblion ar gyfer ynni, braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgr, ffibr, protein, haearn, sinc, calsiwm, Fitamin A, Fitamin C, ffolad, sodiwm.
Amser ailystyried?
Y prisiau cyfredol ar gyfer prydau ysgol ym Mlaenau Gwent yw (bob dydd):
Cynradd - £2.40
Uwchradd - £2.65
Mae bwydlenni ein holl ysgolion ar gael - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/schools-learning/school-menu/
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
Prydau Ysgol
Ffôn: 01495 311556
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Bwydlen Yr Ysgol 1
Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort
Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm
Ysgol Gynradd Brynbach
Ysgol Gynradd Coed-y-Garn
Ysgol Gynradd Cwm
Ysgol Gynradd Deighton
Ysgol Gynradd Ebwy Fawr
Ysgol Gynradd Georgetown
Ysgol Gynradd Rhos-y-fedwen
Campws Roseheyworth
Campws Six Bells
Ysgol Gynradd Sant Illtyd
Campws Tyleri
Ysgol Gynradd Trehelyg
Ysgol Gymraeg Brohelyg
Bwydlen Yr Ysgol 2
Beaufort Hill Primary
Blean-y-Cwm Primary
Brynbach Primary
Coed-y-Garn Primary
Cwm Primary
Deighton Primary
Ebbw Fawr Primary
Georgetown Primary
Glanhowy Primary
Rhos-y-Fedwen Primary
Roseheyworth Campus
Soffryd Primary
Tillery Street Campus
St Mary’s CIW Primary
St Illtyd's Primary
Willowtown Primary
Ysgol Gymraeg Bro Helyg
Ystruth Primary
All Saints Primary
St Mary's Brynmawr RC Primary
St Joseph’s RC Primary