Ysgol Uwchradd Gymraeg

Nid oes gan Flaenau Gwent ysgol uwchradd Gymraeg yn y fwrdeistref sirol, fodd bynnag rydym wedi sicrhau lleoedd ysgol uwchradd yn Ysgol Gyfun Gwynllwg. Mae Ysgol Gyfun Gwynllyw yn ysgol 3-18 oed; byddai eich plentyn yn ymuno ym mlwyddyn 7 a gallant barhau â’u haddysg hyd ddiwedd y Chweched dosbarth. Oherwydd i’ch plentyn fynd i ysgol gynradd Gymraeg, gall symud ymlaen yn llyfn i ysgol uwchradd Gymraeg.

Fel yn yr ysgol gynradd, caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu haddysgu fel pynciau unigol mewn addysg uwchradd Gymraeg. Caiff y Gymraeg hefyd ei defnyddio fel cyfrwng ar gyfer pynciau eraill yn ogystal â gweithgareddau allgwricwlaidd. Yn y ffordd hon caiff dwyieithrwydd y person ifanc ei gynnal a’i ddatblygu ymhellach drwy gydol ei addysg gan ddatblygu eu sgiliau ieithyddol. Bydd ysgol gynradd ac ysgol uwchradd eich plentyn yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i hwyluso pontio o un ysgol i’r llall

Mae bob amser gyfleoedd i’ch plentyn ddefnyddio peth Gymraeg gartref, naill ai drwy’r cyfryngau cymdeithasol, yn eu gweithgareddau tu allan i’r ysgol neu’n edrych ar y teledu. Y nod yw i bobl ifanc fod yn hyderus yn y ddwy iaith a pharhau i fanteisio ar gyfleoedd yn y Gymraeg ar ôl yr ysgol gynradd. Os yw person ifanc yn ddwyieithog pan fydd yn 16 neu 18 oed, gall addasu’n dda tu hwnt i astudiaethau pellach mewn unrhyw bwnc drwy’r naill iaith neu’r llall.