Plant a Phobl Ifanc/ Rhieni a Gofalwyr – Gwasanaethau Eiriolaeth Annibynnol

Gwybodaeth Rhieni/Gofalwyr a Phlant

Darperir cefnogaeth annibynnol i rieni ym Mlaenau Gwent gan SNAP Cymru.

Elusen yw SNAP Cymru sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Mae'r gwasanaeth:

  • Am ddim
  • Yn gyfrinachol
  • Yn annibynnol

Beth mae SNAP Cymru yn gallu gwneud?

  • Siarad â chi am eich pryderon.
  • Ymweld â chi adref os ydych eisiau iddynt.
  • Eich helpu i ddeall sut gellir helpu'ch plentyn.
  • Eich helpu i ysgrifennu'ch meddyliau am eich plentyn.
  • Eich cefnogi mewn cyfarfodydd, yn yr ysgol, yn ystod ymweliadau a thrafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn os ydych yn dymuno.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau yn eich ardal a sut gallwch ddod o hyd i'r gefnogaeth y gallech fod ei angen.
Tudalennau Cysylltiedig:
  • Siaradwch â rhywun ar 0808 801 0608

Dogfennau Cysylltiedig

Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (2018)

Sefydliadau eraill a all helpu

Protocol Y Drindod

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent- AskSARA