Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Deddf Rheoleiddio Ffyrdd a Thraffig 1984
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar Y Stryd (Gorfodaeth Parcio Sifil a Gorchymyn Cydgrynhoi 2019 (Diwygiad Rhif 9)
HYSBYSIR DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig yn unol â Rheoliadau Gorchymyn Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Lloegr a Chymru) 1984 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’i diwygiwyd, a Rhan IV Atodlen 9 y Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (Deddf ‘2004’) a phob pŵer galluogi arall ac ar ôl ymgynghori gyda Phrif Swyddog yr Heddlu, i wneud y Gorchymyn uchod ac i ddiwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd dilynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.
- Mae’r Cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 9 a fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu Aros a Llwytho a Mannau Parcio Ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”) i sicrhau defnydd diogel ac effeithiol y rhwydwaith priffyrdd.
- Effeithiau’r Gorchymyn fydd diwygio’r cyfyngiadau parcio ar y darn o ffordd a nodir ar atodlen map G19 a F19.
Mae manylion llawn y cynigion yn y drafft Orchymyn sydd, ynghyd â’r cynllun yn dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bydd felly hyd at y dyddiad gorffen o 21 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad.
Os dymunwch wrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad mewn ysgrifen at y sawl a lofnododd isod erbyn 2024.
Bydd angen i wrthwynebiadau fod drwy anfon e-bost neu ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fel yr amlinellir isod.
E-bost - BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk
Neu drwy ysgrifennu at:- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri, NP13 1DB
DYDDIEDIG: 2024
CLIVE ROGERS
Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol
Dogfennau Cysylltiedig