Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent

Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent

Ym mis Mawrth 2021, daeth 44 o drigolion Blaenau Gwent at ei gilydd ar-lein i drafod y cwestiwn, ‘Sut gallwn fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ym Mlaenau Gwent mewn ffordd sy’n deg ac sy’n gwella safonau byw i bawb?’ Dewiswyd y 44 aelod cynulliad hyn ar hap i fod yn gynrychioliadol o bobl ym Mlaenau Gwent (o ran oedran, rhyw, ble maent yn byw, math o dai ac ati). Cyfarfu’r Cynulliad Hinsawdd am gyfanswm o 23 awr ar-lein, gan glywed tystiolaeth gan dros 20 o arbenigwyr (o academyddion i drigolion lleol). Pleidleisiodd ar argymhellion a grëwyd gan ei aelodau ei hun a chafodd pump ohonynt y lefel o gefnogaeth oedd ei hangen, sef 80%, i ddod yn argymhellion swyddogol.

Mwy am Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent

Yn ogystal ag Adroddiad y Cynulliad Hinsawdd, gallwch hefyd weld fideos o’r holl dystiolaeth arbenigol am effeithiau newid hinsawdd ac atebion posibl ym Mlaenau Gwent ar wefan y Cynulliad Hinsawdd.

Comisiynwyd Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent gan gonsortiwm o sefydliadau cymdeithas sifil a chymdeithasau tai: Cynnal Cymru, Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Cymdeithas Tai Linc Cymru, Cartrefi Melin, Cartrefi Cymunedol Tai Calon a Chymdeithas Tai Unedig Cymru, i gyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent. Fe’i hariannwyd drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, rhan o Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.

Ymateb i’r Cynulliad Hinsawdd a’r Newyddion Diweddaraf

Fe wnaethom ymrwymo i ddatblygu camau gweithredu ychwanegol i gyflymu ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd mewn ymateb i argymhellion y Cynulliad Hinsawdd, gan weithio gyda phartneriaid trwy Bartneriaeth Llesiant Lleol Blaenau Gwent (rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent). Mae ein hymatebion a’n diweddariadau isod:

Camau Arfaethedig gan Bartneriaid – Gorffennaf 2021

Nid yw’r ymateb hwn yn ceisio rhestru’r holl gamau yr ydym ni a’n partneriaid yn eu cymryd ar newid hinsawdd, ond mae’n canolbwyntio ar y rhai sy’n ymwneud ag agweddau ar argymhellion y Cynulliad Hinsawdd y gellir eu cyflawni ar lefel Blaenau Gwent. (Bydd angen gweithredu ar rai elfennau o’r argymhellion, megis system tocyn sengl ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ar raddfa fwy; rydym yn eiriol dros y newidiadau hyn, ond mae’r ymateb yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud yn lleol.)

Ymateb i Gamau Arfaethedig Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent