Y Cynnig Gofal Plant i Gymru (Gofal Plant 30 awr) - Diweddariad Awst 2020
Bydd y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn ailagor ar gyfer ceisiadau yn ystod mis Awst a mis Medi.
Gall rhieni a fyddai wedi bod yn gymwys i gael y Cynnig o Ebrill 2020 (tymor yr haf) gymryd y Cynnig o ddechrau tymor yr hydref, os ydynt yn dal yn gymwys. Bydd y broses ymgeisio yn agor i'r rhieni hynny ar y 14eg o Awst.
Os gwnaethoch gyflwyno cais cyn i'r Cynnig gael ei atal, bydd y tîm yn cysylltu â chi a gofynnir ichi ailgyflwyno tystiolaeth o'ch cyflog (a thystiolaeth o’ch cyfeiriad os ydych wedi symud), fel y gellir adolygu'ch cais.
Gall rhieni y mae eu plentyn yn dod yn gymwys ar gyfer y Cynnig ym mis Medi (plentyn sydd wedi troi’n dair oed ar neu ar ôl yr 20fed o Ebrill) wneud cais o 1af Medi. Sylwch na ellir derbyn cyllid nes bod y cais wedi'i gwblhau a bod dyddiad cychwyn wedi'i gyhoeddi. Ni fydd cyllid yn cael ei ôl-ddyddio.
Beth ydy’r cynnig gofal plant?
Bydd y cynnig gofal plant newydd yn darparu 30 awr i rieni o addysg gynnar a gofal planti rai tair a phedair blwydd oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y cynnig yn adeiladu ar hawliad addysg gynnar bresennol plant yn ystod amser tymor, ac yn darparu 30 awr o ofal plant am naw wythnos o’r gwyliau.
Beth mae’n ei olygu i mi fel darparwr?
Ar yr amod eich bod wedi'ch cofrestru gyda AGC, fe allech chi dderbyn cyllid ar gyfer plant cymwys sy'n cyrchu'r cynnig yn eich lleoliad.
A oes angen imi gyflenwi’r Cyfnod Sylfaen er mwyn cyflenwi elfen gofal plant cynnig?
Nac oes. Bydd rhai plant yn parhau i fanteisio ar addysg gynnar mewn lleoliadau cynaledig. Does dim rheidrwydd ar ddarparwyr gofal plant i gyflenwi elfen addysg gynnar yn ogystal ag elfen gofal plant y cynnig.
A oes gofyn imi allu cyflenwi’r cynnig am 48 wythnos y flwyddyn er mwyn cymryd rhan?
Nac oes. Caiff rhieni fanteisio ar y cynnig trwy wahanol ddarparwyr sy’n cyfarfod â’u hamgylchiadau orau. Gall darparwyr sydd ddim ond yn cynnig darpariaeth yn ystod y tymor, neu ddarpariaeth yn ystod gwyliau ysgol yn unig, barhau i gyflenwi’r cynnig, yn ddibynnol ar anghenion y rhieni.
Faint fydda i’n cael fy nhalu?
Bydd pob darparwr yn derbyn graddfa o £4.50 yr awr i blant sy’n derbyn elfen gofal plant y cynnig.
A oes modd imi godi tâl ychwanegol ar rieni?
Nac oes. Chewch chi ddim codi tâl ychwanegol os ydych fel arfer yn codi mwy na £4.50 yr awr.
A gaf i godi am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?
Cewch. Os oes angen, cewch godi ar rieni am elfennau ychwanegol megis bwyd, trafnidiaeth a gweithgareddau oddi ar y safle sy’n golygu cost. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru gyda golwg ar osod ffioedd ychwanegol o dan y cynnig am sesiwn gofal diwrnod llawn (oddeutu 10 awr) yn datgan na ddylid codi ar rieni mwy na £7.50 y dydd (fe fyddai hynny’n cynnwys tri phryd @ £2 y pryd a 2 byrbryd @ 75c yr un). Ar gyfer sesiwn hanner diwrnod (oddeutu 5.5 awr), ni ddylid codi ar rieni mwy na £4.75 (dau bryd @ £2 y pryd a byrbryd @ 75c). Am ofal sesiynol lle nad oes angen darparu pryd ond bod plant yn derbyn byrbryd, y canllawiau ydy na ddylid codi ar rieni mwy na 75c y dydd am ddarparu byrbryd.
Sut fydda i’n cael fy nhalu?
Yn fisol ar ôl derbyn ffurflen gofnod wedi'i chwblhau a'i dilysu'n llawn.
Sut fedra i gymryd rhan?
Er mwyn cyflenwi’r cynnig, cwblhewch Ffurflen Gydsynio Darparwr a’i dychwelyd at y tîm Cynnig Gofal Plant trwy e-bost at: fis@blaenau-gwent.gov.uk
Neu trwy’r post at:
Tîm Cynnig Gofal Plant
Canolfan Integredig i Blant Blaenau
Stryd Fawr
Blaenau