Baeau Parcio Pobl Anabl

Beth yw baeau parcio?

Mae baeau parcio pobl anabl yn ardaloedd dynodedig ar gyfer parcio y tu allan neu’n agos at gartref person anabl.

Mae’r gair “Anabl” wedi ei ysgrifennu ar y ffordd rhwng y llinellau gwyn ar y bae.

Ar gyfer pwy maent?

Maent i’w defnyddio gan unrhyw berson sy’n arddangos bathodyn car person anabl (bathodyn glas).

Pwy all wneud cais am fae?

Er mwyn cymhwyso am fae parcio person anabl, rhaid i chi fedru cyflawni’r holl feini prawf: 

  • Bod yn yrrwr y car, os nad oes amgylchiadau eithriadol.
  • Defnyddiwch gadair olwyn yn barhaol.
  • Defnyddio cadair olwyn ar sail barhaol.
  • Bod heb fynediad i gyfleusterau oddi ar y ffordd neu barcio.

O ganlyniad i’r galw uchel am y gwasanaeth hwn gweithredir system ddyrannu flaenoriaethol ac fe neilltuir cilfachau yn bennaf i yrwyr ag anableddau difrifol.

Beth sy’n digwydd os gwnaf gais?

Gofynnir i chi gwblhau datganiad yn ymwneud â’r cwestiynau blaenorol.

Bydd angen i Beiriannydd a Syrfëwr y Fwrdeisdref Sirol angen i weld os medrir darparu’r bae yn ddiogel. Mae’n rhaid i hyn roi ystyriaeth i reoliadau traffig wrth wneud penderfyniad am leoliad y bae parcio.

Gallai fod angen tystiolaeth feddygol er mwyn hwyluso’n hasesiad mewn achosion eithriadol.

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn hapus gyda’r penderfyniad?

Dylid anfon cais ysgrifenedig atom, gyda chadarnhad meddygol perthnasol o union natur eich anabledd, ar gyfer cynnal asesiad pellach a manylion. Cewch wybod mewn ysgrifen am yr hyn sy’n digwydd.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth, neu i wneud atgyfeiriad neu roi adroddiad am brydeorn yng nghyswllt:

  • person 18 oed neu drosodd cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant.

Ffôn: 01495 315700
E-bost : DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer ymholiadau gwybodaeth gyffredinol:
E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: 01495 354680
Ffacs: 01495 355285