Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth am ddim a gynigir gan Lywodraeth EM 

Pan fydd rhywun wedi marw, mae yna lawer o bethau y mae'n rhaid eu gwneud, ar adeg pan mae'n debyg eich bod yn teimlo fel eu gwneud nhw leiaf.

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wirfoddol i'w ddefnyddio ac yn ddefnyddiol iawn. Mae'n eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth unwaith yn unig, gan ddweud wrth wasanaethau llywodraeth ganolog a lleol yn yn ddiogel ac ddiogel ac yn gyfrinachol heb i chi orfod rhoi gwybod iddynt yn unigol.

Gall fideo gwybodaeth fer sy’n esbonio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith cael ei weld ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=Xw0Ob59HFEY

Gellir rhoi gwybos i lawer o wasanaethau ac mae'r rhain yn cynnwys:

  • y cyngor lleol - i ddiweddaru gwasanaethau fel Tai Cyngor, Budd-dal Tai, Treth Gyngor, Bathodyn Glas a thynnu'r person o'r Gofrestr Etholiadol
  • Cyllid a Thollau EM (HMRC) – i ddelio â threth personol a diweddaru mewn perthynas â cheisiadau Budd-dal Plant a Chredydau Treth (cysylltwch â HMRC ar wahân ar gyfer trethi busnes, fel TAW)                                                                                                                                                                                                                               
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - i ddiweddaru gwybodaeth budd-daliadau er enghraifft: Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Cynhwysol
  • Swyddfa Pasbort - i ganslo pasbort Prydeinig
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded yrru a dileu manylion y ceidwad cofrestredig, o bosibl ar gyfer hyd at bum cerbyd
  • Cynlluniau Pensiwn y Sector Cyhoeddus neu'r Lluoedd Arfog - i ddiweddaru cofnodion pensiwn

Sut y mae defnyddio'r gwasanaeth?

Ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth gyda'r Cofrestrydd, gall y Cofrestrydd gwblhau'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi ar yr un pryd.

Fel arall, bydd y Cofrestrydd yn darparu cyfeirnod unigryw Dywedwch Wrthym Unwaith, a fydd yn eich galluogi i gael fynediad at wasanaeth Ar-lein trwy GOV.UK yn https://www.gov.uk/after-a-death
Os ydych wedi cael Ffaith Marwolaeth Crwner (Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro) efallai y byddwch yn dal i allu defnyddio'r gwasanaeth a bydd y Cofrestrydd yn eich cynghori sut i wneud hynny.

Bydd yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth berthnasol a restrir isod am yr unigolyn cyn defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith:   
                                                                                                    

  • dyddiad geni
  • cyfeiriad yr ymadawedig
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif trwydded yrru
  • rhif cofrestru cerbyd
  • rhif pasbort

Bydd angen i chi hefyd cael:

  • manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliau yr oeddent yn eu cael, er enghraifft Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Cynhwysol
  • manylion unrhyw wasanaethau cyngor lleol yr oeddent yn eu cael, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Bathodyn Glas, tocyn teithio
  • enw a chyfeiriad eu perthynas agos
  • enw a chyfeiriad unrhyw briod neu bartner sifil sy'n goroesi
  • yr enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr unigolyn neu’r cwmni sy’n delio â’i ystâd (eiddo ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu ‘weinyddwr’
  • manylion unrhyw gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus neu luoedd arfog yr oeddent yn eu cael neu'n talu iddynt

Nodwch

  • Mae angen caniatâd gan y perthynas agosaf, yr ysgutor, y gweinyddwr ac unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd â'r unigolyn a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.
  • Nid oes angen cyswllt dilynol ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith oni bai nad ydych yn cael cadarnhad gan yr adran berthnasol ar ôl cyfnod rhesymol o amser, yn y rhan fwyaf o achosion mis calendr.
  • Unwaith y bydd yr amryw o asiantaethau a hysbyswyd gan Dywedwch Wrthym Unwaith wedi cael gwybod am y marwolaeth, byddant yn gwneud unrhyw gyswllt pellach â'r teulu mewn profedigaeth os oes angen.
  • Nid yw Dywedwch Wrthym Unwaith yn gais i fudd-dal, felly cysylltwch â GOV.UK/cymraeg neu'r adran berthnasol i gael cyngor.
  • Nid yw Dywedwch Wrthyn Unwaith yn rhoi gwybod i unrhyw sefydliadau masnachol o'r farwolaeth ac ni allant drefnu ailgyfeirio'r post.