Help gyda budd-daliadau, rhent a biliau eraill

Gwiriwr budd-daliadau

Ewch i Gov.uk i ganfod pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

Gwirio budd-daliadau a’r cymorth ariannol y gallwch ei gael - GOV.UK (www.gov.uk)

Treth Gyngor

Mae’r Dreth Gyngor yn un o’r biliau misol mwyaf ar gyfer pob cartref.

Mae llawer o gynlluniau ar gael i helpu llacio’r pwysau neilltuol yma, gostyngiad un preswylydd, cymorth gydag iechyd meddwl neu anabledd corfforol, gofalwyr ac aelwydydd incwm isel.

Edrychwch os gallech fod yn talu llai o Dreth Gyngor drwy wneud am cais am ostyngiad, diystyriad neu eithriad. Treth Gyngor | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Gallwch hefyd gael gwybodaeth ar-lein am y Dreth Gyngor drwy fewngofnodi neu weld eich treth gyngor ar-lein. www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/council-tax/council-tax-online,

Gostyngiad Treth Gyngor

Os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau neilltuol ac yn atebol i dalu treth gyngor, gallech fod yn gymwys am Ostyngiad Treth Gyngor. Cliciwch yma i ganfod mwy: Budd-daliadau Ar-lein | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Budd-dal Tai

Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu eich rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau. Mae’r Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno yn lle budd-dal tai.

Dim ond yn yr achosion dilynol y gallwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai:

  • Eich bod wedi cyrraedd oed Pensiwn Gwladol
  • Eich bod yn byw mewn tai â chymorth, tai gwarchod neu lety dros dro

Cliciwch yma i ganfod mwy:  Hawlio budd-dal tai | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Taliad Tai ar Ddisgresiwn

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu elfen tai Credyd Cynhwysol, ond yn ei chael yn anodd talu eich rhent, gallwch wneud cais am Daliad Tai yn  ôl Disgresiwn (DHP).

I ganfod mwy a gwirio os gallech fod yn gymwys am gymorth, ewch i Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Prydau Ysgol am Ddim

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol

Mae gan bob disgybl ysgol Gynradd o’r Dosbarth Derbyn (yn cynnwys plant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i bryd ysgol am ddim.

Cyfnod Allweddol 2 – Cyfnod Allweddol 4:

 Gall eich plant gael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisiwr Gwaith Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant (gydag incwm blynyddol o lai na £16,190)
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith ategol – telir am 4 wythnos ar ôl i chi beidio bod yn gymwys am y Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol gydag incwm aelwyd net o lai na £7,400 (£616.67 y mis)

Nid oes gan deuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith hawl i brydau ysgol am ddim.

I ganfod mwy ac i wneud cais ewch i  Prydau Ysgol am Ddim | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Grant Gwisg Ysgol

Gall disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol o £125 ar gyfer pob disgybl, a £200 ar gyfer y disgyblion hynny sy’n dechrau ar flwyddyn 7, gan gydnabod y costau cynyddol sy’n gysylltiedig gyda dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Nid yw disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau gwarchod dros dro neu’n derbyn prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol yn unig ac nid brydau ysgol am ddim yn seiliedig ar feini prawf cysylltiedig ag incwm/budd-daliadau yn gymwys am y cyllid hwn.

Bu pob blwyddyn ysgol yn gymwys o fis Ionawr 2022 ymlaen.

Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys am y grant, p’un ai ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio.

Dim ond unwaith y gall teuluoedd hawlio am blentyn ym mhob blwyddyn ysgol.

Dechreuodd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar 1 Gorffennaf 2023 a bydd yn dod i ben ar 31 Mai 2024.

I gael manylion pellach ewch i Grant Gwisg Ysgol | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)