Prydau Ysgol am Ddim i Bawb
Mae gan bob disgybl ysgol gynradd o’r Dosbarth Derbyn lan (a phlant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i Bryd Ysgol am Ddim bob dydd.
Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd ac uchelgais i drin tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn newynnog yn yr ysgol. Mae hefyd fuddion ehangach i brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adeg prydau bwyd, yn ogystal â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen i’ch plentyn ei wneud yw dweud os yw eisiau cinio ysgol pan fydd yn cofrestru ar ddechrau’r diwrnod ysgol.
Cyfnod Allweddol 2- Cyfnod Allweddol 4:
Efallai y gall eich plentyn gael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Cymorth yn gysylltiedig ag incwm
- Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Plant (gydag incwm blynyddol o lai na £16,190)
- Elfen gwarant Credyd Pensiwn
- Ategiad Credyd Treth Gwaith – talwyd am 4 wythnos ar ôl i chi beidio cymhwyso am Gredyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol gydag incwm aelwyd net o lai na £7,400 (£616.67 y mis)
Nid oes gan deuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith hawl i brydau ysgol am ddim
Gallwch ddarllen mwy am brydau ysgol am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru.
Sut i wneud cais
Nid oes angen i chi lenwi ffurflen arall os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor.
Cysylltwch â’r adran Budd-daliadau os yw eich plentyn yn dechrau’r ysgol am y tro cyntaf.
Cysylltwch â’r Adran Budd-daliadau os nad yw eich plentyn yn cael prydau ysgol am ddim ond y credech y dylai
Beth sy’n digwydd nesaf
Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn gadael i’r ysgol wybod pan mae eich plentyn yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
Gwybodaeth Cyswllt
Enw’r Tîm: Budd-daliadau
E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk neu ffôn 01495 311556