Mae aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo penodi Partner Datblygu Strategol a Buddsoddi ar y cyd i helpu i ddarparu cyfleoedd adfywio a buddsoddi ar draws Blaenau Gwent a Thorfaen.

Argymhellodd yr adroddiad y dylai Willmott Dixon gael ei benodi gan y ddau Gyngor i gefnogi cyflawni prosiectau adfywio, cartrefi newydd, gwelliannau seilwaith a chyfleoedd buddsoddi mewnol ar draws y ddwy ardal.
Bydd y bartneriaeth yn darparu mynediad at arbenigedd datblygu arbenigol, capasiti ychwanegol, a chyfleoedd buddsoddi i helpu i symud cynlluniau adfywio cymhleth yn eu blaen a datgloi safleoedd strategol allweddol.
Disgwylir hefyd i'r trefniant gefnogi cyflawniad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, gan sicrhau bod y ddau awdurdod lleol yn cadw rheolaeth dros benderfyniadau allweddol sy'n ymwneud â thir, cyllid a chymeradwyaethau prosiectau.
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd:
"Mae'r bartneriaeth hon yn gam pwysig wrth ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Blaenau Gwent a'n partneriaid ffederasiwn, Torfaen. Drwy gyfuno ein gwybodaeth a'n gweledigaeth leol ag arbenigedd datblygu arbenigol, gallwn gyflymu prosiectau adfywio, denu buddsoddiad pellach a chreu cyfleoedd sy'n rhoi budd i'n cymunedau am genedlaethau i ddod.
"Mae ein ffocws yn parhau ar ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, gwella seilwaith, cefnogi busnesau lleol a chreu'r amodau ar gyfer twf economaidd cynaliadwy. Bydd gweithio gyda phartner strategol yn cryfhau ein gallu i ddatgloi safleoedd cymhleth a bwrw ymlaen â phrosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion ar draws y fwrdeistref sirol."
Ym mis Gorffennaf 2025, cytunodd y ddau Gyngor i gaffael Partner Datblygu a Buddsoddi Strategol hirdymor ar y cyd. Penodir Willmott Dixon drwy Fframwaith Pagabo a arweinir gan Ddatblygwyr, yn amodol ar ofynion terfynol caffael a sicrwydd cyfreithiol.
Caiff gwaith rhagarweiniol cyn-datblygu ei gyflawni drwy gytundeb 12 mis, gyda phob prosiect yn y dyfodol yn amodol ar gymeradwyaethau a phrosesau llywodraethu ar wahân.
Blaenau Gwent a Torfaen oedd yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu dull Marmot, gan adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i leihau anghydraddoldeb a gwella canlyniadau i gymunedau drwy adfywio cynaliadwy a thwf economaidd cynhwysol.