Murlun Nye Bevan newydd wedi'i ddadorchuddio yn Nhredegar

Mae'r diweddaraf mewn cyfres o furluniau yn seiliedig ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi'i gwblhau yn Nhredegar. Mae'r gwaith celf diweddaraf wedi'i beintio gan yr artist lleol James Telford ac mae'n darlunio pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Aneurin Bevan, ochr yn ochr ag un o'i ddyfyniadau enwocaf.

"I never used to regard myself so much as a politician as a projectile discharged from the Welsh valleys... when I listen to the cacophony of harsh voices trying to intimidate, I close my eyes and listen to the silent voices of the poor."

Mae'r gwaith celf i'w weld ar wal tafarn a Llety Gwely a Brecwast y Coach and Horses yn Charles Street, Tredegar.

Ganwyd Aneurin Bevan yn 32 Charles Street, y chweched plentyn mewn teulu o ddeg – yn drist iawn dim ond chwech ohonynt a dyfodd i fod yn oedolion. Pan oedd yn wyth oed symudodd y teulu i eiddo mwy yn 7 Charles Street, ac yna sgil ymarferoldeb ac athrylith ei dad, mwynhaodd y teulu bopty nwy cyntaf ar y stryd, toiled dan do, a dŵr poeth. Wedi dweud hynny, roedd yn ymwybodol iawn nad oedd teuluoedd eraill mor ffodus, ac roedd yn dyst i dlodi a salwch a achoswyd gan dai gwael ar draws y dref.

Gwnaeth hyn, ynghyd â dylanwad ei dad a'i fentor Walter Conway, danio awydd yn y Bevan ifanc i wneud gwahaniaeth. Cafodd ei ethol yn gynrychiolydd y Glowyr (Cynrychiolydd Undeb Llafur) yn Ffederasiwn Glowyr De Cymru, lle ymladdodd dros amodau gwaith a thâl gwell i'w gyd-lowyr. Cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Trefol Tredegar ym 1922, Cyngor Sir Fynwy ym 1928 ac yn Aelod Seneddol ym 1929, a oedd yn esgyniad aruthrol i rym. Roedd yn dal y swyddi etholedig ar y Cyngor Sir ac yn y Senedd ar yr un pryd ac mae'r dyfyniad hwn yn dod o araith a wnaeth mewn cinio a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy er anrhydedd iddo, i gydnabod ffurfio'r GIG.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros yr Economi a Lleoedd:

"Mae lleoliad y murlun hwn mor bwysig gan fod Bevan wedi cerdded ar hyd y stryd hon ar ei ffordd i'r ysgol - cerddodd y stryd hon a gweld tlodi a thai gwael, cerddodd y stryd hon yn dyst i ddiweithdra a'r angen am newid. Roedd yn hanu o Stryd Charles, yn Nhredegar, yng nghymoedd Cymru, ac roedd ei bobl, y rhai yr oedd angen rhywun i sefyll drostyn nhw, ar flaen ei feddwl ar hyd ei daith wleidyddol.

"Rydym yn falch mai Blaenau Gwent yw cartref ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol arbennig, ac rwy'n annog ymwelwyr i ddod yma i weld y safleoedd treftadaeth a'r gweithiau celf sy'n dathlu etifeddiaeth Bevan heddiw."

Dywedodd James Telford, yr artist a beintiodd y gwaith celf anhygoel hwn:

"Tan yn ddiweddar roeddwn i wedi gweithio ar gomisiynau ar raddfa lai yn bennaf ond gwnes i fy murlun awyr agored cyntaf yn Nhredegar y llynedd fel rhan o Brosiect Celf Stryd y Cymoedd. Yna cefais wahoddiad i gymryd rhan yn Full Colour Maindee. Comisiynodd Blaenau Gwent y murlun hwn, a dyma'r un mwyaf rydw i wedi'i gwblhau o bell ffordd. Roeddwn i eisoes wedi gwneud sawl darn yn seiliedig ar Bevan, felly mae'n wyneb rwy'n gyfarwydd ag ef. Mae wedi bod yn darged mawr i mi beintio murlun mawr yn fy nhref enedigol. Mae cyflawni hyn gan beintio Aneurin Bevan, un o eiconau’r dref a'r wlad, yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy arbennig. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Blaenau Gwent am ymddiried ynof gyda phrosiect mor fawr ac i Simon ac Amanda o'r Coach and Horses am roi sêl bendith i'r prosiect."

Hoffai Cyngor Blaenau Gwent ddiolch i berchennog yr eiddo, Simon Griffiths, am ganiatáu i'r comisiwn fynd yn ei flaen.

Meddai Mr Griffiths:

"Mae'r GIG mor anhygoel, ac rydw i mor falch bod y cyfan wedi dechrau yma yn fy nhref enedigol. Mae James wedi gwneud gwaith gwych, chwarae teg iddo. O’n rhan ni, rydyn ni’n hynod falch o roi rhywbeth bach yn ôl i un o ddyfeisiadau gorau’r wlad a gŵr anhygoel. Pan ddywedodd Winston Churchill fod Aneurin Bevan yn un o siaradwyr gorau ei genhedlaeth, er gwaethaf eu gwahaniaethau gwleidyddol, mae'n dangos cymeriad y dyn."

Dywedodd Amanda Burrows, Tafarnwraig y Coach and Horses:

"Rydw i mor falch o gael hwn ar ochr fy nhafarn, wrth gwrs! Mae'n drawiadol. Pan glywodd ein cymdogion mai Nye oedd yn cael ei beintio, roedden nhw i gyd mor gyffrous. Mae James wedi gwneud gwaith gwych, ac roedd hi’n bleser ei helpu i dorri ei syched ar y diwrnodau poeth ’na. Mae ’na lwyth o gelf yn ymddangos ledled y wlad ond mae pobl yn dweud mai hwn yw’r gorau."

Dywedodd Emma Jones, perchennog Hair Play yn Charles Street:

"Cefais fy swyno o weld y gwaith yn datblygu dros yr wythnos. Mae mor glyfar; roeddwn i yn yr ysgol gyda James, mae e mor dalentog. Fe wnaethon ni ei gadw i fynd gyda choffi ac mae mor hyfryd gweld pobl yn dod i weld y gwaith ac yn tynnu lluniau."

Roedd y murlun yn rhan o brosiect Cartref y GIG a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac fe'i comisiynwyd gan Gyngor Blaenau Gwent.

Lleoedd i ymweld â nhw yn lleol:

Cerrig Coffa Aneurin Bevan

Y man lle siaradodd Bevan â'i etholwyr a'r byd Cerrig Coffa Aneurin Bevan | CBS Blaenau Gwent

Tŷ Bedwellty

Cyfle i ymweld â siambr y cyngor lle cafodd Bevan ei ethol am y tro cyntaf, gwylio ffilm ar ei fywyd cynnar a'i sgiliau areithio, a gweld penddelw Bevan gan Lambda. Tŷ a Pharc Bedwellty | CBS Blaenau Gwent

Canolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar

Mae'r ganolfan treftadaeth yn adrodd yr hanes am sut y defnyddiodd Aneurin Bevan AS, fel Gweinidog Iechyd, y gymdeithas fel glasbrint ar gyfer cyflwyno gofal iechyd am ddim i bawb pan 'Dredegareiddiodd' y DU. Cymdeithas Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar | CBS Blaenau Gwent

Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar

Mae gan yr amgueddfa gasgliad amrywiol o arteffactau sy'n adlewyrchu diwydiant a bywyd y dref haearn bwysig hon. Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar | CBS Blaenau Gwent

Archifau Gwent

Mae'r cyfleusterau newydd gwych yn Archifau Gwent yn darparu amgylchedd delfrydol i chi ddefnyddio'r casgliad unigryw o ddogfennau. Archifau Gwent | CBS Blaenau Gwent

Llwybr Treftadaeth Aneurin Bevan

Mae'r llwybr hwn yn llwybr cerdded a gyrru yn Nhredegar, man geni Aneurin Bevan 1897-1960, Aelod Seneddol Llafur dros Lynebwy 1929-1960. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/ymwelwyr/llwybrau-lleol/

Yn olion traed Nye

Cerdded yn ôl troed chwedl... Roedd Aneurin ‘Nye’ Bevan wrth ei fodd yn cerdded ar draws y rhostir uwchben Trefil, cymuned chwareli calchfaen ar ymyl ogleddol ei etholaeth a'r pentref uchaf yng Nghymru. Gallwch ddilyn yn ôl troed y gŵr arloesol ac egwyddorol hwn, trwy dirwedd llawn chwedlau, ar y daith gerdded hon at ei hoff olygfa. Dyma rai o'r pethau i gadw llygad amdanynt ar hyd y ffordd. https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/ymwelwyr/llwybrau-lleol/

Murluniau

Canolfan Siopa Gwent, Tredegar gan Walls by Paul
Walkway Bank Lane i Commercial Street, Tredegar gan Walls by Paul
Charles Street, Tredegar gan James Telford
Portread Bevan gan Stewy on 10, The Circle.

Gweithiau Celf Eraill

Pedair tarian grog efydd ar waelod Cloc Tref Tredegar gan Diane Gorvin
Penddelw efydd o Bevan gan Lambda yn Nhŷ Bedwellty
Murluniau ceramig cymunedol yn Walkway Bank Lane i Commercial Street ac yn Llyfrgell Tredegar
Silwét dur gan Circling the Square yn The Circle.