Cynllun ‘Cyfamser’ yn parhau i helpu busnesau lleol i gymryd y cam nesaf

Bu’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn gyfnod anodd ar gyfer busnesau, yn arbennig y rhai sydd eisiau dechrau ar fenter newydd. Mae effaith pandemig Covid, y newid mewn arferion siopa yn cynnwys y newid i siopa ar-lein i gyd wedi bod yn her i ganol trefi. Bu annog busnesau newydd i ganol trefi yn anodd, gan arwain at siopau gwag.

Mae cynllun Defnydd yn y Cyfamser yn un cynllun a arweinir gan y Llywodraeth i annog defnydd dros dro ar siopau gwag mewn canol trefi. Mae’r cynllun Cyfamser yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau newydd gan roi cyfle iddynt gymryd tenantiaeth a phrofi’r farchnad heb orfod ymrwymo i gontractau rhent hirdymor neu ddrud. Gall defnyddiau Cyfamser gynorthwyo gydag adfywio canol trefi. Mae Tillery Animal Health yn un o’r busnesau a gymerodd ran yn y cynllun.

Dywedodd Siobhan, perchennog Tillery Animal Health:
“Ar ôl i fy swydd flaenorol fel cynrychiolydd fferylliaeth milfeddygol ddod i ben, penderfynais ddefnyddio fy nghymwysterau fel cynghorydd ar iechyd anifeiliaid ac agor busnes yn gwerthu moddion, bwyd, danteithion a theganau anifeiliaid.

Roeddwn yn gweithio gartref i ddechrau a symudais ymlaen yn fuan i stondin yn y farchnad leol. Dyma pryd y siaradais gyda Swyddog Datblygu Canol y Dref am fy uchelgais o gael fy safle fy hun a dywedodd wrthyf am y cynllun ‘cyfamser’ a allai roi cymorth ariannol gan roi cyfle i mi rentu siop fach yn Arcêd Abertyleri.

Dyma’r help roeddwn ei angen i fy ngalluogi i symud o fasnachu gartref i redeg fy siop fy hun. Daeth y siop honno yn rhy fach i mi mewn dim o dro ac rwy’n awr wedi symud i safle mwy. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ymestyn y cynnyrch rwy’n eu gwerthu ac yn awr yn cynnwys dillad gwledig, dillad marchogaeth ac offer campau dŵr.

Cefais gefnogaeth wych gan bobl leol sydd wedi dod yn gwsmeriaid gwerthfawr.”

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio
“Nod y cynllun yw cefnogi amrywiaeth eang o fusnesau, gan roi cyfle masnachu risg isel yng nghanol y dref i berchnogion busnes. Mae’n enghraifft go iawn o waith partneriaeth sy’n gostwng nifer y siopau gwag ac yn cynyddu’r amrywiaeth nwyddau a gwasanaethau sydd ar gael i’r gymuned.”

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Rhaglen Cyfamser, cysylltwch â:
Karen Williams ar 07790 545307 neu e-bost: regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Siobhan, perchennog Tillery Animal health, yn ei siop yn Arcêd Abertyleri.