Cyngor yn cymeradwyo cynllun i roi gostyngiad i fusnesau ar eu hardrethi

Mae Cabinet Cyngor Blaenau Gwent heddiw wedi mabwysiadu cynllun lle bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n gymwys yn derbyn gostyngiad o 75% ar eu hardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol hwn.

Caiff pob cyngor gyllid gan Lywodraeth Cymru i benderfynu os dymunant gynnig y cynllun yn eu hardaloedd. Dyrannwyd £1.8 miliwn i Flaenau Gwent i fedru cynnig y cynllun eleni.

Dywedodd y Cyng Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Cafodd y cynllun hwn effaith gadarnhaol ym Mlaenau Gwent dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae eleni yn gweld cynnig hael gyda gostyngiad o 75% ar gyfer busnesau cymwys. Nod y cynllun yw helpu’r busnesau hynny a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig ac sy’n dal i weithio’n galed i gael adferiad llawn. Hefyd, yn yr hinsawdd ariannol presennol lle mae cost rhedeg busnes yn cynyddu, rydym yn falch i fedru cynnig y cymorth hwn.

“Rwy’n falch iawn fod y Cabinet heddiw wedi cymeradwyo’r cynllun hwn fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gymuned fusnes yma ym Mlaenau Gwent.”

Mae mwy o wybodaeth yn cynnwys sut i wneud cais ar gael yn - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/business/business-rates-nndr/business-rates-reductions/