Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi prynu Canolfan Siopa Gwent yn Nhredegar fel rhan o gynlluniau adfywio hirdymor ac uchelgeisiol ar gyfer y dref.
Mae pryniant y ganolfan siopa breifat wedi'i ariannu 100 y cant o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU.
O dan berchnogaeth y Cyngor, mae rhaglen o waith gwella wedi'i rhoi ar waith a bydd rheolaeth o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan yr asiantau rheoli Cooke ac Arkwright. Bydd opsiynau ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu dros y flwyddyn nesaf, gyda'r gymuned leol yn cael y cyfle i ddweud eu dweud a llunio cynlluniau.
Dywedodd Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd Blaenau Gwent, y Cynghorydd John Morgan:
“Ein blaenoriaeth yw creu economi leol ffyniannus a lleoedd bywiog i fyw ynddynt ac ymweld â nhw ar draws Blaenau Gwent. Mae Canolfan Siopa Gwent yn ased allweddol yn Nhredegar, felly mae hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen yn adfywiad ehangach y dref ar ben y buddsoddiad o £20 miliwn o gyllid Balchder Bro.
“Mae trigolion wedi dweud wrthym eu bod eisiau i ni ganolbwyntio’n wirioneddol ar wella ein trefi ac mae bod yn berchen ar y ganolfan siopa yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar wneud gwelliannau uniongyrchol i fusnesau presennol, yn ogystal ag edrych ar gynlluniau tymor hwy sy’n gysylltiedig â chreu lleoedd a chyfleoedd ariannu allanol.
“Mae ein Glasbrint ar gyfer Twf sy’n datblygu, Ffynnu Gyda’n Gilydd, yn cynnig dull strategol o ddenu buddsoddiad i’r ardal, gwella llesiant a lleihau anghydraddoldebau trwy gyflogaeth gynaliadwy. Yng Nghanolfan Siopa Gwent mae gennym gyfle newydd i gefnogi busnesau presennol, annog busnesau newydd a chefnogi swyddi newydd a sgiliau newydd, yn ogystal â datblygu gofod cymunedol gwerthfawr.”
Nid yw’r pryniant yn golygu unrhyw newid i’r busnesau presennol ar y safle.
