Asesiad golwg gwan am ddim I ofalwyr di-dâl a’r rheiny sy’n derbyn gofal

Mae Partneriaeth Strategol Gofalwyr Gwent wedi bod yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn rhanbarth Gwent mewn nifer o ffyrdd; un o’r meysydd yma yw gofal cychwynnol. Rydym wedi gweithio gyda meddygon teulu, fferyllfeydd a deintyddion ac rydym nawr yn edrych ar ffyrdd o gefnogi gofalwyr â golwg gwan.

Os oes golwg gwan neu nam ar y golwg gyda chi, mae yna gyfle i chi gael asesiad golwg gwan am ddim. Mae hyn o berthnasol i ofalwyr a’r sawl y maen nhw’n gofalu amdanynt (pob oed)

Beth yw golwg gwan
Ystyr golwg gwan yn syml yw peidio bod yn gallu gweld cystal â’r rhan fwyaf o bobl eraill, hyd yn oed wrth wisgo sbectol neu lensiau cyffwrdd.

Asesiad golwg gwan
Os ydych gennych chi neu’r person yr ydych chi’n gofalu amdanyn nhw nam ar y golwg neu olwg gwan, neu wedi cofrestru naill ai gyda nam ar y golwg neu â nam difrifol ar y golwg, gall ymarferydd golwg gwan achrededig eich helpu i wneud y defnydd gorau o’r golwg sydd gennych.
Gallan nhw asesu’ch golwg. Mewn rhai achosion, gellir gwneud ymweliadau â’r cartref.

Mae’r asesiad i chi a’r ymarferydd golwg gwan:

  • drafod cyflwr eich golwg a’r anawsterau all hyn gael ar eich bywyd pob dydd;
  • rhoi cyngor ymarferol ynglŷn â’r ffordd orau i ddod i ben â golau a seddi yn y cartref;
  • siarad â chi am yr hyn yr hoffech chi help ag e, fel darllen cyfarwyddiadau coginio, gwylio’r teledu, delio â meddyginiaeth neu dabledi, cwblhau gwaith ysgol, neu hyd yn oed gweithio ar hobïau;
  • ystyried nifer o gynorthwyon gwahanol ar gyfer golwg gwan fel chwyddwydrau llaw neu ar stand, typosgôp, golau tasgau, chwyddwydrau electronig, sgriniau a/neu standiau darllen etc. sy’n benodol at eich gofynion;
  • penderfynu rhyngoch chi pan gynorthwyon golwg gwan sydd o’r cymorth mwyaf i chi a sut i’w defnyddio orau. Bydd y rhain yn cael eu harchebu am ddim i chi gael eu benthyg gartref cyhyd ag y bydd eu hangen nhw arnoch chi.

Os oes golwg gwag gyda chi a bod angen asesiad arnoch chi, cysylltwch â Brona Oakerbee trwy e-bost: brona.oakerbee@torfaen.gov.uk yn gyntaf