Beth yw’r Uwch-Gyngor Plant?

Mae’r Uwch-Gyngor Plant yn cyfarfod unwaith y tymor (tair gwaith y flwyddyn). Mae'n dod â dau neu fwy o blant at ei gilydd o bob Ysgol Gynradd ym Mlaenau Gwent.

Mae'r plant yn dysgu am eu hawliau ac yn trafod y materion sy'n wynebu plant a phobl ifanc ym Mlaenau Gwent. Mae'r pwyntiau a'r sylwadau a godir ganddynt yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan y Cyngor a phartneriaid.

Mae hefyd yn gyfle i fynd â gwybodaeth a dysgu yn ôl i ysgolion, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd!

Ymdrinnir ag ystod dda o bynciau, gan gynnwys newid hinsawdd a bioamrywiaeth, rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, perthnasoedd bwyd iach a hawliau'r plentyn.