Adroddiad Cyllid a Pherfformiad 2022- 2023

Defnyddir yr Adroddiad Cyllid a Pherfformiad fel offeryn gwella allweddol ar gyfer yr Awdurdod. Mae'n rhoi disgrifiad manwl o'r prosiectau, mentrau a gwasanaethau sydd wedi digwydd dros gyfnod o 6-12 mis ac yn bwysig mae'n nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn y pedwar amcan Corfforaethol a amlinellwyd yn ein Cynllun Corfforaethol. Yn ogystal ag amlinellu’r cynnydd rydym wedi’i wneud, mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu lle mae angen gwelliant pellach a beth yw ein ffocws ar gyfer y dyfodol.

Cesglir gwybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad Cyllid a Pherfformiad o nifer o wahanol ffynonellau gan gynnwys diweddariadau o gynlluniau busnes, tynnu tystiolaeth o adroddiadau strategol a dadansoddi data.

Mae'r adroddiad Cyllid a Pherfformiad yn rhoi darlun manwl o weithgarwch a pherfformiad y Cyngor.

Mae’r adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Cyflawniadau allweddol
  • Gwybodaeth ariannol
  • Cysylltiadau â Nodau Llesiant Cenedlaethol
  • Llais defnyddwyr gwasanaeth
  • Cynnydd yn erbyn pedair Blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol
  • Yr hyn y mae'r Rheoleiddwyr wedi'i ddweud wrthym
  • Ein ffocws ar gyfer y dyfodol

Adroddiad Cyllid a Pherfformiad 2022- 2023