Aelod Cabinet

  • Mae'r Cabinet yn cynnwys Arweinydd (Cynghorydd a benodir yn flynyddol gan y Cyngor) ac 4 Cynghorydd arall (a gaiff hefyd eu penodi'n flynyddol gan y Cyngor)
  • Rhoddir Portffolio i bob Aelod o'r Pwyllgor Gwaith sy'n cyfeirio at swyddogaeth adrannol er bod rhai meysydd 'trawsbynciol'. Dylai'r Aelod o'r Pwyllgor Gwaith roi arweinyddiaeth wleidyddol yn y portffolio a rhoi cyfeiriad gwleidyddol i ddatblygu polisi o fewn y portffolio;
  • Caiff y Portffolios eu hadleisio gan Bwyllgor Craffu. Nid yw'r Aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn Aelod o'r Pwyllgor hwnnw ond gall gymryd rhan drwy wahoddiad yn unig. Diben aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn mynychu'r Pwyllgor Craffu yw i gael ei holi gan y Pwyllgor ar eitem benodol ar yr agenda. Nid yw'r Aelod o'r Pwyllgor Gwaith yn mynychu i ofyn cwestiynau i'r swyddogion.
  • Cyhoeddir busnes y Pwyllgor Gwaith mewn blaenraglen gwaith sy'n gysylltiedig â blaenoriaethau'r Cyngor ac eitemau ym Mlaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu. 

 

Aelodaeth 2023 - 2024 Pwyllgor Gwaith 

 

Arweinydd ac Aelod Cabinet a Pherfformiad

Cynghorydd Stephen Thomas

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd

Cynghorydd Helen Cunningham

Aelod Cabinet Pobl ac Addysg

Cynghorydd Sue Edmunds

Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cynghorydd  Haydn Trollope

Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd

Cynghorydd John C. Morgan