STEM

Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg

Mae’r setiau sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf, gyda newidiadau enfawr yn ein heconomi byd-eang ac angen dulliau newydd, blaengar i hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Wedi’u gyrru yn bennaf gan ddatblygiadau technolegol, mae llawer o swyddi wedi diflannu’n llwyr oherwydd awtomeiddio tra bod rhai newydd yn ymddangos bob dydd. Mae’r ffordd y mae myfyrwyr yn rhyngweithio, dysgu a chysylltu hefyd wedi newid fel bod angen rhaglen newydd o ddysgu i unioni’r fantol.


Mae STEM yn ymagwedd at ddysgu a datblygu sy’n integreiddio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae sgiliau allweddol tebyg i greadigrwydd ac arloesi, meddwl beirniadol a datrys problemau, effeithlonrwydd personol, cynllunio a threfnu ymysg y sgiliau newydd sydd eu hangen i greu gweithlu cystadleuol a all addasu i’r newid yn y gweithle.

STEM Cylchlythyr Gorffennaf 2022

STEM Cylchlythyr Ebrill 2022

STEM Cylchlythyr Hydref 2021

 

Enghreifftiau o weithdai STEM

Dogfennau Cysylltiedig