
Mae rôl llywodraethwr ysgol wedi dod yn gynyddol bwysig gan ddisgwyl i gyrff llywodraethu wneud penderfyniadau strategol hir dymor ar gyfer dyfodol eu hysgolion. Rydym yn ffodus iawn ym Mlaenau Gwent i gael llywodraethwyr ymrwymedig sy’n rhoi’u hamser yn hael ac sy’n darparu cefnogaeth a her i’n hysgolion gyda’r nod cyffredinol o godi safonau addysg.
I alluogi llywodraethwyr i gwblhau’r rôl hon, cânt eu cefnogi gan Dîm Cefnogi a Datblygu Llywodraethwyr, sydd yn:
- Darparu llywodraethwyr gyda’r rhaglen hyfforddiant Datblygiad Mandadol a Strategol
- Darparu gwasanaeth clercio effeithiol ac effeithlon i’r corff llywodraethol
- Darparu cyngor a chefnogaeth amserol a pherthnasol ar bob mater yn ymwneud â llywodraethu ysgolion.
Bydd y gwasanaeth cefnogi hwn i Lywodraethwyr ar gyfer ysgolion Blaenau Gwent yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (EAS) De Ddwyrain Cymru.
Rydym yn awyddus i recriwtio Llywodraethwyr newydd felly os ydych yn frwdfrydig dros fod ynghlwm gyda’n hysgolion, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Dogfennau Cysylltiedig
- Information for Prospective Governors
- Governor Code of Conduct
- Ffurflen Gais Llywodraethwr Awdurdod Lleol
Gwybodaeth Gyswllt
Gwybodaeth gyswllt
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan EAS http://www.sewales.org.uk/
I gysylltu ag aelod o Dîm Cefnogi’r Llywodraethwyr, cysylltwch â:
Ffôn: 01443 864963 (Gwasanaethau Cefnogi Llywodraethwyr)
e-bost: governor.support@sewaleseas.org.uk
Ffôn: 02920-731546 (Llywodraethwyr Cymru) Gwe: www.governors.cymru