
Mae Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig yn ein caniatáu i gwrdd ac ymrwymo gyda phobl ifanc ble maen nhw fel arfer yn treulio’u hamser hamdden ym Mlaenau Gwent y tu allan i amser yr ysgol. Gallai hyn fod ar y strydoedd, mewn caffis a pharciau neu mewn gorsafoedd trên a bysys.
Ein nod:
- Helpu pobl ifanc gyrraedd eu potensial
- Gweithio fel eiriolwyr dros bobl ifanc
- Cynorthwyo pobl ifanc gydag unrhyw broblemau sy’n eu hwynebu
- Cynnig cyngor a chefnogaeth ar opsiynau ehangach yn ymwneud â rhagolygon addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Rydym hefyd yn trefnu amrediad o weithdai, gweithgareddau a digwyddiadau hwylus sy’n rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddynt.
Felly os welwch ein timau ar y stryd – galwch heibio i ddweud helo!
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Youth Service, Greg Morgan
Rhif Ffôn:01495 355674 / 07970 208727
Cyfeiriad e-bost: greg.morgan@blaenau-gwent.gov.uk