
Mae rhaglen Dug Caeredin yn antur go iawn o’r cychwyn i’r diwedd ac mae ar agor i unrhyw berson ifanc rhwng 14 a 24 oed a hoffai roi cynnig ar ychydig o antur a mynd allan i’r gymuned!
Gall eich rhaglen fod yn llawn gweithgareddau a phrosiectau sydd o ddiddordeb i chi ac ar y ffordd, byddwch yn ennill profiadau, ffrindiau a galluoedd a fydd yn aros gyda chi am weddill eich bywyd.
Fel cyfranogwr yn rhaglen Dug Caeredin, byddwch yn cael cyfle nid yn unig i roi cynnig ar brofiadau newydd mewn awyrgylch hwylus ac anghystadleuol, ond byddwch hefyd yn:
- Ennill Gwobr Dug Caeredin a fydd yn rhoi sgiliau, hyder a safbwynt ar fywyd mae pawb yn edrych am, o gyflogwyr i golegau a phrifysgolion.
- Cael cydnabyddiaeth am wneud pethau rydych eisiau eu gwneud.
- Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill a’ch cymuned.
- Herio’ch hun a darganfod talentau doeddech chi byth yn gwybod oedd gennych.
- Fwy ffit ac iachus ac yn creu atgofion a fydd yn para oes.
Dywedwch IE i antur a Gwobr Dug Caeredin!
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Catherine Parker, Duke of Edinburgh’s Award Development Officer
Rhif Ffôn: 01495 355674 / 07817 246920
Cyfeiriad e-bost: catherine.parker@blaenau-gwent.gov.uk