Taith Addysg

Fel rhiant, bydd penderfynu ar addysg eich plentyn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnewch. Mae 3 math o ysgol ym Mlaenau Gwent i ddewis o’u plith:

  • Ysgol cyfrwng Cymraeg (addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg);
  • Ysgol ffydd (Catholig a’r Eglwys yng Nghymru); a
  • Ysgol cyfrwng Saesneg (addysgu’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Saesneg)

Gorau po gyntaf y mae plentyn yn dysgu ail iaith, fodd bynnag gellir derbyn plant i leoliad cyfrwng Cymraeg ar unrhyw adeg ar eu taith addysgol. Caiff gosodiadau trochi cyfrwng Cymraeg eu datblygu ym Mlaenau Gwent fydd yn cefnogi trochi plentyn mewn addysg Gymraeg cyn symud i brif amgylchedd yr ystafell ddosbarth.

Derbyniadau Ysgolion

Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r awdurdod derbyn (Cyngor Blaenau Gwent) yn gyfrifol am leoli disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Wedyn dynodir lle i’r disgyblion hyn naill ai yng Nghampws Blaenau neu Dredegar gan dîm Arweinyddiaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Newyddion: Bydd Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn agor darpariaeth egin yn Nhredegar o fis Medi 2023 ar gyfer disgyblion Meithrin a Derbyn.

Gwnewch gais yma nawr

Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyniadau Ysgol

Gofynion Cludiant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn fwy hael na Mesur Teithio Dysgwyr Cymru. Cynigir cludiant am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol lle mae’r pellter rhwng y cartref a’r ysgol dros:

  • 5 milltir o’r cartref ar gyfer plant dan 8 oed a
  • 2 filltir o’r cartref ar gyfer plant 8 oed a throsodd

Mae hefyd gludiant am ddim ar gyfer disgyblion meithrin dros 1.5 milltir i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau 1 miliwn o ddysgwyr erbyn 2050.