Cyn-ysgol

Gallwch ddechrau taith eich plentyn i ddod yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Mae nifer o leoliadau cyn-ysgol ar gyfer babanod hyd at blant 3 oed. Gall y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd (cliciwch yma) roi mwy o wybodaeth. Dyma rai o’r cyfleoedd:

  • Grwpiau babanod a thylino babanod
  • Cymraeg i Blant. Mae’r Mudiad Meithrin yn cynnig cymorth ymarferol i rieni newydd ar sut i ddechau cyflwyno’r Gymraeg i’w baban. Yn osystal â chynnig cyngor defnyddiol ar ofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg, mae swyddog lleol Cymraeg i Blant yn cynnwys cylchoedd hwyliog am ddim yn cynnwys tylino baban, yoga babanod a sesiynau arwydd, stori a rhigwm sy’n addas gyfer rhai 0-18 mis oed.
  • Cylch Ti a Fi - Mudiad Meithrin Mae Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni/gofalwyr babanod/plant ifanc i gwrdd unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau am sgiliau rhianta a chwarae mewn awyrgylch anffurfiol yn y Gymraeg. Mae cyfle mewn cylch Ti a Fi i wneud ffrindiau newydd, chwarae gyda teganau, dysgu canu caneuon syml yn y Gymraeg a gwrando ar straeon Cymraeg.

https://meithrin.cymru/cylchtiafi/

  • Cylch Meithrin/Dechrau’n Deg – Cylch chwarae cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cyfle i’ch plentyn gymdeithasu a dysgu drwy chwarae dan arweiniad staff proffesiynol a chymwys. Drwy fynychu Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn dechrau ar y daith i addysg cyfrwng Cymraeg ac yn datblygu i fod yn unigolyn hyderus yn barod i gymryd y cam naturiol nesaf i addysg Gymraeg yn yr ysgol.
  • Holwch eich darparydd lleol sut maent yn defnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau bob dydd.

Y Daith Ddwyieithiog Gyda Dechrau'n Deg

https://llyw.cymru/cymraeg-i-blant

Bydd Blaenau Gwent yn agor dau leoliad gofal plant arall yn 2023 a 2024, un yn Nhredegar a’r llall yng Nglynebwy. Caiff y rhain eu rhedeg gan ddarparydd gofal plant preifat i’w benderfynu yn hydref 2022.

Nid oes angen i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ofidio; mae’r mudiadau sy’n cynnal cylchoedd chwarae yn croesawu rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg eu hunain ond sydd eisiau cyflwyno eu plant i’r Gymraeg. Awgrymir fod rhieni’n ceisio siarad cymaint o Gymraeg ag sy’n bosibl gyda’u plant gan y bydd hyn yn eu helpu i siarad yn naturiol a hyderus.

Mae darpariaeth feithrin lawn-amser yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg a gall plant ddefnyddio’r cludiant am ddim rhwng yr ysgol a’r cartref sydd ar gael ar gyfer disgyblion oedran ysgol statudol.