Diagnosis Awtistiaeth

Diagnosis mewn Plant

Os yw'ch plentyn chi o dan 5 oed a'ch bod chi'n poeni, mae'n bwysig siarad â rhywun. Gallwch chi siarad â'ch meddyg teulu, ymwelydd iechyd, gweithiwr iechyd proffesiynol arall a/neu eich darparwr addysg. Am ragor o wybodaeth am y llwybr diagnostig ar gyfer plant dan 5 oed, ewch i wefan y Gwasanaethau Integredig i Blant ag Anghenion Ychwanegol (ISCAN).

Os yw'ch plentyn chi'n 5 oed neu hŷn, eich meddyg teulu chi a/neu ysgol eich plentyn fyddai'r bobl gyntaf i siarad â nhw am eich pryderon.  Byddan nhw'n gallu siarad â chi am eich pryderon a sut i wneud atgyfeiriad. Bydd gwylio'r fideo isod yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Diagnosis mewn Oedolion

Os ydych chi'n oedolyn ac yn teimlo efallai bod angen diagnosis arnoch chi neu eich bod chi'n gofalu am oedolyn yna gallwch chi wneud hunan-atgyfeiriad/atgyfeiriad cymunedol i'r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig.

 

Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi’i sefydlu ar y cyd rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddarparu asesiad diagnostig i oedolion (weithiau ar y cyd â gwasanaethau eraill), cymorth a chyngor i oedolion â diagnosis a’r rhai sy’n eu cynorthwyo (rhieni/gofalwyr/partneriaid).

Maen nhw'n cynnal sesiynau cyngor y gall unrhyw un gadw lle ar eu cyfer i drafod unrhyw beth sy’n ymwneud ag Awtistiaeth neu i ddysgu am eu gwasanaeth.