Cyhoeddodd Llywodraeth y DU 2 gynllun newydd i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.
Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin
Gall dinasyddion Wcráin ac aelodau agos o'u teulu wneud cais o hyd i ddod i'r DU o dan y cynllun hwn os oes ganddynt noddwr cymeradwy. Mae'r pwyntiau allweddol yn cynnwys.
Rhaid i noddwyr fod yn:
- Ddinasyddion Prydeinig neu Wyddelig, neu
- Wedi ymgartrefu yn y DU (gyda chaniatâd amhenodol i aros neu statws tebyg)
- Rhaid i noddwyr ddarparu llety am o leiaf 6 mis
- Gall rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol noddi eu plant hyd yn oed os nad ydynt yn ddinasyddion Prydeinig, ar yr amod bod ganddynt ganiatâd o dan gynllun Wcráin a gallant brofi eu perthynas
Apply for a visa under the Homes for Ukraine Sponsorship Scheme - GOV.UK
Mae pob noddwr/lletywr yn derbyn taliad Diolch o £500 (y mis) yn ystod y flwyddyn gychwynnol y mae eu gwesteion o fewn y DU. Ar gyfer lletywyr sy'n lletya gwesteion sydd wedi bod o fewn y DU am fwy na 12 mis, bydd lletywyr yn derbyn cyfradd sefydlog o £350 y mis.
Becoming a sponsor: Homes for Ukraine - GOV.UK
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio, ochr yn ochr â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru, i chwilio am letywyr newydd sy'n mynegi diddordeb. Oes gennych chi ystafell sbâr y gallech chi ei chynnig? Rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r lefel briodol o gefnogaeth i bob newydd-ddyfodiad a'u lletywyr - er mwyn sicrhau bod yr holl drefniadau lletya mor gryf â phosibl. Mae'r gefnogaeth hon yn cynnwys rhoi cyngor ymarferol i letywyr i'ch cynorthwyo - yn ogystal â chefnogi eich gwesteion yn uniongyrchol. Mae 'gweithiwr cyswllt' yn cael ei neilltuo i bob trefniant lletya. Mae'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio gyda sefydliad trydydd sector o'r enw Displaced People in Action (DPIA) ers nifer o flynyddoedd, mae gan DPIA brofiad eang o gefnogi ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd y DU.
Dysgwch fwy am fynegi eich diddordeb mewn dod yn lletywr drwy gysylltu â Lisa.Meredith@blaenau-gwent.gov.uk