Adfer Treth Gyngor

Beth yw’r Dreth Gyngor?

Mae’r Dreth Gyngor yn dâl blynyddol a bennir gan y Cyngor. Mae'n dreth eiddo sy'n mynd tuag at dalu am wasanaethau lleol pwysig. Nid yw'n daliad uniongyrchol am wasanaethau felly mae'n rhaid ei dalu p’un a ydych chi'n defnyddio'r gwasanaethau ai peidio.

Os ydych chi'n anfodlon â Gwasanaethau'r Cyngor, mae'n rhaid i chi ddal i dalu'ch bil. Os oes gennych gŵyn yn erbyn gwasanaeth penodol o'r Cyngor, nid yw hyn yn rhoi'r hawl i chi atal y taliad cyfan neu'r taliad rhannol.

Mae’r Dreth Gyngor yn ddyled flaenoriaeth ac felly mae'n rhaid i chi flaenoriaethu'r taliad, byddem yn eich annog chi i beidio ag anwybyddu'r hysbysiadau a anfonir atoch chi.

Os na fyddwch yn talu'ch Treth Gyngor neu'n talu'n hwyr efallai y byddwch yn destun achos adennill. Ar bob cam o'r achos adennill gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol.

Bil neu Fil Blynyddol

Cyhoeddir bil Treth Gyngor yn eich cynghori ynghylch faint sy'n ddyledus a phryd i dalu. Bydd y gorchymyn yn dangos y deg rhandaliad statudol ar gyfer mis Ebrill i fis Ionawr. Mae hi nawr yn bosibl talu mwy na deuddeg mis i ledaenu'r gost.

Rhaid talu rhandaliadau ar y dyddiad a bennir a bydd taliad hwyr yn arwain at anfon hysbysiad atgoffa atoch.

Adfer Treth Gyngor

Hysbysiad Atgoffa

Os byddwch chi'n colli taliad treth gyngor, anfonir hysbysiad atgoffa i chi, gan roi 7 diwrnod i chi dalu a gofyn i chi ddiweddaru eich cyfrif.

Os na fyddwch chi'n talu o fewn 7 niwrnod, byddwch yn colli'ch hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd yn rhaid i chi dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn lle hynny.

Os na allwch ddiweddaru eich cyfrif o fewn 7 niwrnod, rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith.

Hysbysiad Gwŷs

Os na fyddwch yn talu'ch treth gyngor ar ôl derbyn nodyn atgoffa byddwn yn anfon gwŷs i chi. Bydd y gwŷs yn eich cynghori am eich dyled a dyddiad gwrandawiad llys. Nid oes angen i chi fynychu'r llys os ydych chi'n cytuno eich bod yn gyfrifol i dalu'r ddyled.

Rhaid i chi dalu'r gost gwŷs a sefydlu cynllun talu cyn dyddiad eich achos llys i osgoi cymryd camau pellach.

Gall derbyn gwŷs effeithio ar eich statws credyd.

Gorchymyn Atebolrwydd

Ceir gorchymyn atebolrwydd drwy'r llys Ynadon; gellir ychwanegu costau i'ch cyfrif Treth Gyngor am fater gorchymyn atebolrwydd.

Mae'r gorchymyn atebolrwydd yn rhoi hawl gyfreithiol i'r Cyngor i ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau adfer canlynol:

  • Asiantaethau Gorfodi
    Gallwn anfon y Gorchymyn Atebolrwydd i Asiantaethau Gorfodi ardystiedig a fydd yn casglu'r Dreth Gyngor heb ei dalu. Bydd yr Asiantaethau Gorfodi naill ai'n casglu'r ddyled, neu'n cael gwared ar nwyddau i werth y ddyled. Gall y dull adennill hwn arwain at daliadau sylweddol.
  • Atafaelu enillion
    Gallwn orchymyn i'ch cyflogwr wneud didyniadau ar gyfer y Dreth Gyngor o'ch cyflog, yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth; gelwir hyn yn Atafaelu Enillion. Mae'n drosedd i'ch cyflogwr beidio â chydymffurfio â'r gorchymyn.
  • Didyniad o Fudd-daliadau
    Gallwn ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau wneud didyniadau ar gyfer y Dreth Gyngor yn uniongyrchol o'ch budd-daliadau i dalu'r ddyled.
  • Gorchymyn Codi Tâl
    Os ydych chi'n berchen ar eich eiddo, gallwn wneud cais i'r Llys Sirol i godi tâl yn erbyn eich cartref. Mae'r Gorchymyn Codi Tâl yn gweithio yn yr un modd â morgais - byddai'n rhaid ei dalu os gwerthwch yr eiddo.
  • Methdalwriaeth
    Gallwn wneud cais i'r Llys Sirol i’ch gwneud yn Fethdalwr. Mae hwn yn gam difrifol iawn a fyddai'n effeithio ar eich gallu i gael credyd ac ati. Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, bydd y derbynnydd swyddogol yn rheoli'ch gwariant.

Gwneud taliad

Cysylltwch â ni

Er mwyn atal unrhyw gamau gweithredu uchod, sicrhewch fod eich treth gyngor yn cael ei dalu ar amser. Os ydych chi ar ôl gyda'ch taliadau, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Mae yna hefyd nifer o sefydliadau cyngor ar ddyled y gallwch siarad â nhw os ydych chi'n cael problemau gyda dyled.

cyfrifiannell budd-daliadau (darganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael a sut i hawlio)

Gostyngiad yn y Dreth Gyngor

Os ydych ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Gweler ein tudalen Gostyngiad yn y Dreth Gyngor am ragor o wybodaeth.