Gwasanaeth Warden Cŵn
Mae ein wardeiniaid cŵn yn patrolio'r fwrdeistref ac yn ymateb i gwynion am gŵn crwydr. LLynedd, gafaelwyd 58 o gwn crwydr gennym.
Caiff yr holl gŵn na chânt eu hawlio gan eu perchnogion eu hail-gartrefu drwy ganolfannau ail-gartrefu cenedlaethol. Dim ond cŵn sy'n ddifrifol wael neu wedi eu hanafu neu na fedrir eu hail-gartrefu oherwydd eu hoedran neu am resymau ymddygiad a gaiff eu rhoi i gysgu. Mae'r Cyngor yn defnyddio cenelau lleol i letya'r cŵn nes cânt eu hailgartrefu neu eu hail-uno gyda'u perchnogion.
Os ydych yn colli ci:
Ffoniwch ni ar (01495) 357813 a byddwn yn cofrestru eich manylion chi a manylion y ci. Byddwn yn croes-baru'r manylion hyn gyda'r cŵn hynny yr ydym eisoes wedi eu dal. Dylech hefyd gysylltu â milfeddygon lleol neu'r heddlu a gallech hefyd roi'r gair ar led yn eich ardal leol. Rydym hefyd yn rhoi manylion ar ein tudalen Facebook am unrhyw gŵn yr ydym wedi dod o hyd iddynt
https://www.facebook.com/blaenaugwentcbc/
Os yw'ch ci gennym ni:
Os yw'ch ci gennym ni, bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'w ryddhau. Mae'r ffioedd presennol fel sy'n dilyn:
Nifer Dyddiau mewn Cenel |
Ffi Gollwng Is |
Ffi Gollwng Llawn o 1 Tachwedd 2016 |
Hyd at 24 awr ar ôl corlannu |
£80 |
£100 |
2 ddiwrnod |
£87 |
£107 |
3 diwrnod |
£94 |
£114 |
4 diwrnod |
£101 |
£121 |
5 diwrnod |
£108 |
£128 |
6 diwrnod |
£115 |
£135 |
7 diwrnod |
£122 |
£142 |
Ers 6 Ebrill 2016 bu'n drosedd i fod yn berchen ci a pheidio cael microsglodyn iddo gyda'r manylion diweddaraf. Bydd y Cyngor yn defnyddio'r holl fanylion o'r microsglodyn i ddynodi a hysbysu perchennog ci a gasglwyd fel ci crwydr. Fodd bynnag, eir â phob ci a gasglwyd i genelau'r Cyngor lle bydd angen talu ffi er mwyn rhyddhau'r anifail. Os yw manylion perchnogaeth cywir ar ficrosglodyn eich ci, yna bydd y ffi rhyddhau yn is.
Os nad oes gan eich ci ficrosglodyn neu os yw’r manylion ar gronfa ddata microsglodion yn anghywir, yna codir y ffi rhyddhau llawn. Fodd bynnag, fel rhan o’r ffi yma, bydd y Cyngor yn sicrhau y caiff unrhyw fanylion anghywir ar y gronfa ddata microsglodion eu diweddaru os oes gan eich ci ficrosglodyn ond nad yw’r manylion ar y gronfa ddata yn anghywir. Os nad oes gan eich ci ficrosglodyn, bydd angen i chi sicrhau y gwneir hyn o fewn 21 diwrnod o’ch ci yn cael ei rhyddhau o’r cenel a bydd angen i chi roi tystiolaeth i’r Awdurdod Lleol y cafodd hyn ei wneud.
Bydd angen i chi dalu'r cyfan o'r ffi rhyddhau yng nghyfleuster y Cyngor. Ffon 01495 357813 cyn y gellir rhyddhau eich ci.
Os dewch o hyd i gi
Ffoniwch ni gyda chymaint o wybodaeth ag sydd modd. Byddwn wedyn naill ai'n casglu'r ci os yw gennych neu geisio ddod o hyd i'r ci a'i ddal os yw'n dal i grwydro. Tu allan i oriau swyddfa, rhwng 6pm a 10pm dydd Llun i ddydd Gwener, mae gan y Cyngor ganolfan dderbyn lle gall pobl sydd wedi canfod cŵn crwydr fynd â nhw i gael eu casglu . Mae'r safle hefyd ar agor rhwng 9:15m a 10pm ar ddyddiau Sadwrn a 10am i 10pm ar ddyddiau Sul. Ffoniwch 01495 311556 a rhoddir cyfeiriad a manylion y ganolfan yma.
Cŵn nad ydych eu heisiau
Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn derbyn ci nad ydych ei eisiau gennych. Byddwn yn codi ffi o £40 ar gyfer ein costau cenel a chostau eraill. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth. Dim ond i bobl sy'n byw ym Mlaenau Gwent mae'r gwasanaeth hwn ar gael. Gallwn ofyn i chi brofi mai chi biau'r ci ac am dystiolaeth o'ch cyfeiriad.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â (01495) 357813
Tu allan i Oriau Swyddfa - ffoniwch (01495) 311556
Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6AA