Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Beth yw Gorchmynion Rheoleiddio Traffig?

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yw’r ddogfen gyfreithiol statudol sydd ei hangen i gefnogi ystod o fesurau, sy’n llywodraethu neu’n cyfyngu’r defnydd o ffyrdd cyhoeddus. Mae’n galluogi’r Awdurdod Priffyrdd i reoleiddio cyflymder, symudiad a pharcio cerbydau a rheoleiddio symudiad cerddwyr,  a all gael eu gorfodi naill ai gan Swyddogion Gorfodaeth Sifil Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent neu gan yr heddlu.

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arfaethedig

  • Mae cyfraith y Deyrnas Unedig yn ei gwneud yn ofynnol i Orchmynion Rheoleiddio Traffig fod yn eu lle i alluogi’r heddlu, neu yn achos cyfyngiadau parcio (Llinellau Melyn), y cyngor, i weithredu’r cyfyngiadau hyn.

Mae gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn broses faith a gall gymryd nifer o fisoedd i’w chwblhau. Mae manylion am bob un o gamau proses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig i’w gweld isod.

Ymgynghoriad

Yn dilyn cadarnhau’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Yn ystod yr ymgynghoriad bydd yr awdurdod yn cael barn y Gwasanaethau Argyfwng, Cymdeithasau Trafnidiaeth Gyhoeddus, Aelodau Ward lleol, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus leol ac unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n dymuno cyflwyno sylwadau. Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 21 diwrnod.

Lle mae cynnig yn golygu addasu priffordd neu effaith sylweddol i ddefnyddwyr ffordd, gellir hefyd ymgynghori lle’n briodol â grwpiau diddordeb lleol tebyg i grwpiau preswylwyr, masnachwyr a chymunedol y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arnynt.

Caiff manylion yr ymgynghoriad ei hysbysebu ac mae’n cynnwys hysbysiad yn y wasg leol. Cânt hefyd eu huwchlwytho  ar-lein yma.  Byddwn yn ymdrechu i arddangos hysbysiadau cyhoeddus ar unrhyw ffyrdd lle gall newidiadau ddigwydd ac y bernir eu bod yn briodol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad caiff yr holl sylwadau eu hystyried a bydd Swyddogion yn gwneud argymhellion i:

  • caniatáu’r cynllun i symud ymlaen fel yr hysbysir,
  • addasu’r cynllun, neu
  • peidio symud ymlaen â’r cynllun.

Gwneud y Gorchymyn

Gellir wedyn selio’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ffurfiol cyn belled ag y cafodd yr holl sylwadau sefydlog eu hystyried. Gallai diwygiadau i’r cynigion sy’n ganlyniad sylwadau fod angen ymgynghoriad estynedig.

Caiff y Gorchymyn ei hysbysu yn y wasg leol eto o’r dyddiad a nodir yn yr hysbyseb. Gall y Gorchymyn wedyn ddod i rym.

Yn amodol ar Atodlen 9 Rhan VI Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, gall unrhyw berson sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo ar y sail nad yw’r Gorchymyn o fewn y pwerau perthnasol neu na chydymffurfiwyd gydag unrhyw un o’r gofynion neu reoliadau perthnasol a wnaed oddi danddynt yng nghyswllt y Gorchymyn, o fewn chwe wythnos o ddyddiad gwneud y Gorchymyn, wneud cais ar gyfer y diben hwnnw i’r Uchel Lys.

  • Ymgynghoriadau cyfredol
  • Sut i roi sylwadau ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig

Sut i wneud sylw ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig arfaethedig?

Os dymunwch wrthwynebu Gorchymyn arfaethedig dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad mewn ysgrifen at Bennaeth Gwasanaethau Cymunedol fel yr amlinellir isod.

E-bost: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk

Drwy’r post: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri, NP13 1DB.