Ffordd Gyswllt Rhwng Heol Richmond / Heol Alexandra, Six Bells

Deddf Rheoleiddio Traffig 1984 (Gorchymyn Traffig Unffordd) 2026 (Ffordd Gyswllt Rhwng Heol Richmond / Heol Alexandra, Six Bells)

Rhoddir hysbysiad drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a phob pŵer galluogi arall, a fydd yn cael yr effaith ganlynol:

1. Gwahardd symudiadau cerbydau sy’n teithio i gyfeiriad y dwyrain ar y ffordd gyswllt rhwng Heol Alexandra a Heol Richmond, Six Bells, Abertyleri, fel y nodir yn yr hysbysiad hwn.

Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, ynghyd â chynllun yn dangos y darn o ffordd sy’n destun y gorchymyn a datganiad o’r rhesymau. Mae’r gorchymyn drafft ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bydd ar gael yno tan y dyddiad dod i ben, sef 21 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Os hoffech wrthwynebu’r cynigion, bydd angen i chi anfon y rhesymau dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at Gwasanaethau Seilwaith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN, neu anfon e-bost at BSEnvAndRegen@blaenaugwent.gov.uk. Rhaid i wrthwynebiadau gael eu derbyn erbyn 12 Rhagfyr 2026. ac ni fydd unrhyw wrthwynebiad a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael ei ystyried.

DYDDIEDIG: 22 Hydref 2026

MARK THOMAS

Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd

 

Dogfennau Cysylltiedig