Eureka Place, Glynebwy

Deddf rheoleiddio traffig ffyrdd 1984

Gorchymyn (gwahardd a chyfyngu ar aros a llwytho a mannau parcio ar y stryd) (gorfodi parcio sifil a chydgrynhoi) 2019 (rhif diwygio. 23)

RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’i diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 23, a fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Amrywiol Ffyrdd) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”).

  • Effaith y gorchymyn fydd cyflwyno cyfyngiadau dim aros ar unrhyw adeg ar hyd Eureka Place, Glynebwy, fel y nodir ar fap atodol O22A.
  • Effaith y gorchymyn fydd dirymu cyfyngiadau dim aros ar unrhyw adeg ar hyd Fairview ac Eureka Place, Glynebwy, fel y nodir ar fapiau atodol O21C ac O22A.

Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun sy’n dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan ddiwedd y cyfnod o

21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.

Os ydych chi am wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 22 Hydref 2026.

Bydd angen cyflwyno gwrthwynebiadau mewn neges e-bost neu drwy ysgrifennu fel yr amlinellir isod.E-bost: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk  

neu ysgrifennwch at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

DYDDIEDIG: 1 Hydref 2026

MARK THOMAS

Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaeth a’r Amgylchedd

Dogfennau Cysylltiedig