Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wrth arfer ei bwerau o dan adran 84 (1) (a) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y gorchymyn canlynol:
1. Yn y gorchymyn hwn, oni nodir yn wahanol, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu’r atodlen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn y gorchymyn hwn.
2. Ni chaiff unrhyw berson yrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sy’n fwy na 30 (tri deg) milltir yr awr ar y darn o ffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r gorchymyn hwn.
3. Ni chaiff unrhyw berson yrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sy’n fwy na 50 (pum deg) milltir yr awr ar y darn o ffordd a bennir yn Atodlen 2 i’r gorchymyn hwn.
Gellir cyfeirio at y gorchymyn hwn fel Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (A4046, Cwm i Aberbîg, Abertyleri) (Terfyn Cyflymder 30 mya a 50 mya) 2026 a daw i rym ar [Mewnosodwch y Dyddiad] neu ar y dyddiad y codir ac arddangosir yr arwyddion traffig neu'r marciau ffordd ar y safle a ragnodir gan y Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig, pa un bynnag sydd gynharaf.
ATODLEN 1
TERFYN CYFLYMDER 30 MYA
A4046 Cwm i Aberbîg
O’i chyffordd â chylchfan Stryd Forol, am bellter o 220 metr i gyfeiriad deheuol, i ben deheuol Teras Waterloo, Glynebwy, NP23 7TL.
ATODLEN 2
TERFYN CYFLYMDER 50 MYA
A4046 Aberbîg i Gwm
O bwynt 693 metr o’i chyffordd â chylchfan yr A467, am bellter o 2,175 metr i gyfeiriad gorllewinol, i Deras Waterloo, Glynebwy, NP23 7TL.
ATODLEN 3
CYFANSWM CYMRU 40 MPH
A4046 Aberbeeg i Cwm
O bwynt 50 metr o'i chyffordd gyda'r cylchfan A467 am bellter o 643 metr tua'r gorllewin.
Gosodwyd sêl gyffredin )
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent )
yma ym mhresenoldeb: )
Swyddog Awdurdodedig
_________________________________________________
Mark Thomas
Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd