Sero Net 2050

Sero Net 2050

Targed Llywodraeth Cymru yw i Gymru fod yn wlad sero net erbyn 2050. Mae allyriadau sero net yn golygu tynnu’r un maint o CO2 o’r atmosffer â’r hyn rydym yn ei ryddhau iddo. Mae Sero Net 2050 yn ymwneud ag allyriadau tiriogaethol Blaenau Gwent yn ei gyfanrwydd, sy’n cynnwys y carbon a ryddheir gan bob sefydliad ac unigolyn ym Mlaenau Gwent, gan gynnwys o dai, trafnidiaeth, busnesau ac ati.

O ble y daw allyriadau tiriogaethol Blaenau Gwent?

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid ar ystod o gamau a strategaethau i leihau allyriadau tiriogaethol Blaenau Gwent, gan gynnwys:

Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent. Daeth Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent ym mis Mawrth 2021 â 44 o drigolion Blaenau Gwent ynghyd, a wnaeth bum argymhelliad mewn ymateb i’r cwestiwn, ‘Sut gallwn fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ym Mlaenau Gwent mewn ffordd sy’n deg ac sy’n gwella safonau byw i bawb?’

Grŵp Llywio Lliniaru Newid Hinsawdd Blaenau Gwent. Fel rhan o Bartneriaeth Llesiant Lleol Blaenau Gwent, mae partneriaid wedi sefydlu grŵp i gydgysylltu camau gweithredu ar ein hallyriadau tiriogaethol, gan gynnwys datblygu a chymryd camau gweithredu mewn ymateb i Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent.