Dyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent Fforwm Dinasyddion

Ar ddechrau'r flwyddyn cynhaliodd y Cyngor, ynghyd â'r elusen cyfranogiad cyhoeddus Involve, Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent.

Gwnaeth y fforwm, a ariannwyd gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU, ddod â 19 o drigolion ynghyd a ddewiswyd ar hap i fod yn gynrychioliadol o Flaenau Gwent i glywed tystiolaeth, trafod y materion a chynhyrchu 10 argymhelliad am ddyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.

Gwnaethant hyn trwy ystyried y cwestiwn:

Sut gall Blaenau Gwent ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?

Gellir darllen adroddiad cryno i'r Fforwm a'u canfyddiadau isod.

Mae’r argymhellion yn gofyn am gefnogaeth a gweithrediad gan y cyngor ac amrywiaeth o sefydliadau partner, ac mae gweithdy wedi'i gynnal i ddatblygu'r ymateb hwn. Yn dilyn hyn, bydd adroddiad a chynllun gweithredu yn cael eu cyflwyno i'n Pwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheolaeth Amgylcheddol ym mis Rhagfyr, cyn mynd gerbron yr holl gynghorwyr i'w trafod yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y cynllun gweithredu yn adlewyrchu ffocws y Fforwm ar gamau gweithredu y gellir eu cyflawni'n lleol ym Mlaenau Gwent yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Y 10 argymhelliad yw:

Lleihau'r defnydd o geir ar gyfer cymudo

Cael rampiau cadair olwyn ar drenau bob amser

Cynnwys y cyhoedd yn well wrth gynllunio trafnidiaeth

Ystyried trosglwyddo bysiau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus

Gwella gwasanaethau tacsi

Cynyddu cyhoeddusrwydd, capasiti a chyllid bysiau Fflecsi

Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol

Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gyda'r nos

Cynnig opsiynau gwell ar gyfer teithiau ysgol

Annog pobl i gerdded, beicio neu olwyno

Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn awyddus i ddyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion ac i unrhyw newidiadau sy'n cael eu gwneud gefnogi anghenion y gymuned ac yn arwain at fanteision ehangach.

Gweithiodd y Cyngor gyda'r Sortition Foundation i ddewis trigolion drwy loteri, mewn ffordd sy'n cynrychioli poblogaeth ehangach Blaenau Gwent. Roedd y Fforwm yn cynnwys 19 aelod a ddewiswyd ar ôl i 6,600 o lythyrau gael eu hanfon allan (a ddewiswyd trwy loteri o gronfa ddata’r Post Brenhinol), ac fe’i cynhaliwyd dros dri diwrnod llawn, wyneb yn wyneb. Cafodd yr aelodau glywed gan siaradwyr arbenigol i ddysgu am y materion a'u trafod mewn grwpiau bach, gyda gwaith hwyluso gan yr elusen ymgysylltu â'r cyhoedd, Involve.

Rhoddwyd briff i'r Fforwm y dylai ffocws eu hargymhellion fod ar gamau gweithredu:

Lle y gellir gwneud cynnydd sylweddol o fewn y pum mlynedd nesaf a,

y gellir eu cyflawni'n bennaf ar lefel leol ym Mlaenau Gwent, yn hytrach na gofyn am weithredu rhanbarthol neu genedlaethol sylweddol.  

Y bwriad yw i’r argymhellion mwy uniongyrchol a manwl hyn adeiladu ar y ddau argymhelliad teithio mwy hirdymor a gynhyrchwyd gan Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent a gynhaliwyd yn 2021:

  • Trafnidiaeth Integredig. Sefydlu system drafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd fforddiadwy, integredig sy'n hygyrch ledled Blaenau Gwent. System un tocyn sy'n cysylltu â chynlluniau bysiau, rheilffyrdd a beicio - cynhwysiant ar gyfer prynu tocynnau (digidol neu bapur). Hygyrch bob awr o’r dydd gyda diogelwch trwy oleuadau, teledu cylch cyfyng a gwaith cynnal a chadw.
  • Cerdded a Beicio. Sefydlu a gwella seilwaith diogel, hawdd ei gynnal ar gyfer cerddwyr a beicwyr, at ddibenion hamdden neu waith, gyda mynediad i'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys goleuadau a theledu cylch cyfyng a storfeydd beiciau.

Mae blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn cynnwys ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd a galluogi cymunedau cysylltiedig Cyngor Blaenau Gwent, ynghyd â lleihau allyriadau carbon, a chefnogi cymunedau i fod yn annibynnol ac yn wydn.

Fel Cyngor Marmot, rydym am greu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy.

Adroddiad Cryno Dyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent