Diweddariad Ar Osodiadau

Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan – Diweddariad Ar Osodiadau

Mae’r dudalen hon yn dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan at ddefnydd cyhoeddus ym Mlaenau Gwent.

Rhan bwysig o ymrwymiad newid hinsawdd y cyngor yw hyrwyddo’r defnydd o gerbydau trydan a darparu cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i breswylwyr na allant wefru eu cerbydau gartref.

Mae cerbydau trydan yn lleihau’n sylweddol yr allyriadau egsôst a gynhyrchir, o’u cymharu â cherbydau petrol a diesel, gan arwain at well ansawdd aer.

 

Cam 1 – pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd mewn 11 safle ar draws y fwrdeistref

Sicrhawyd cyllid trwy weithio’n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddarparu pwyntiau gwefru cyhoeddus. Mae’r pwyntiau gwefru wedi’u gosod a byddant yn cael eu cynnal gan gontractiwr penodedig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Connected Kerb. Mae’r contract wedi darparu tudalen cwestiynau cyffredin am bwyntiau gwefru cerbydau trydan y cwmni – yn amrywio o sut i wefru cerbyd i faint o amser mae’n ei gymryd a phris defnyddio gwefrwr. Gellir cyrchu’r cwestiynau cyffredin yma: https://www.connectedkerb.com/charge-your-car/drivers/

Gweler y tabl isod am leoliad y pwyntiau gwefru newydd sy’n barod i’r cyhoedd eu defnyddio:

Safle wedi’i gadarnhau

Nifer y gwefrwyr ar bob safle

Parc Bryn Bach, Tredegar

1 x 22kW (2 gilfan)

Maes parcio Heol Tyleri, Cwmtyleri

1 x 22kW (2 gilfan)

Parcio a Theithio Gorsaf Drenau Llanhiledd

2 x 7kW (4 cilfan)

Maes parcio Teras Cwm, Cwm

1 x 22kW (2 gilfan)

Parcio a Theithio Gorsaf Drenau Glynebwy

2 x 7kW (4 cilfan)

Maes parcio Canolfan Siopa Gwent

1 x 22kW (2 gilfan)

Maes parcio Canolfan Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu'r Cymoedd (ViTTC), Tredegar

1 x 22kW (2 gilfan)

Maes parcio gyferbyn â’r Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

1 x 22kW (2 gilfan)

Maes parcio’r Swyddfeydd Cyffredinol ger Gorsaf Drenau Tref Glynebwy

2 x 7kW (4 cilfan)

Maes parcio Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr

1 x 22kW (2 gilfan)

Maes parcio Stryd William, Cwm

1 x 22kW (2 gilfan)

 

Cam 2 – cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer 9 lleoliad arall

Mae cyllid wedi’i sicrhau gan lywodraeth y DU, drwy’r Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau (OZEV), ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn lleoliadau eraill. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ategu gan gyllid gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae safleoedd Cam 2 wedi’u cadarnhau ac mae’r gwaith gosod wedi dechrau. Rydym yn rhagweld y bydd gwaith ar y rhan fwyaf o’r safleoedd wedi’i gwblhau erbyn dechrau mis Medi. Byddwn yn parhau i ddiweddaru statws pob gosodiad a nodir ar y tabl isod:

 

Safle wedi’i gadarnhau

Nifer y gwefrwyr ar bob safle

Statws

Maes parcio Briery Hill, Glynebwy

1 x 22kW (2 gilfan)yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes parcio’r Ganolfan Iechyd, Abertyleri

1 x 22kW (2 gilfan)

Aros am gysylltiad

Maes parcio Lower Salisbury Street, Tredegar

1 x 22kW (2 gilfan)

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes parcio Stryd Gwlad yr Haf / Stryd Caerwrangon, Bryn-mawr

1 x 22kW (2 gilfan)

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes pacio Stryd Arail, Six Bells

1 x 22kW (2 gilfan)

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes parcio Stryd Mitre, Abertyleri

1 x 22kW (2 gilfan)

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes parcio Sgwâr y Frenhines, Glynebwy

1 x 22kW (2 gilfan)

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes parcio oddi ar Stryd Canning, Cwm

1 x 22kW (2 gilfan)

yn fyw ac yn barod i'w ddefnyddio gan y cyhoedd

Maes parcio aml-lawr Abertyleri

2 x 22kW (4 cilfan)

Aros am gadarnhad o ddyddiad dechrau’r gwaith