Lles Anifeiliaid

Mae gan Gyngor Blaenau Gwent bwerau statudol i gyflawni dyletswyddau iechyd a lles anifeiliaid o fewn yr ardal, a gynhwysir yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a 2002, Deddf (Darpariaethau Amrywiol) Amaethyddol 1968, Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006, ynghyd â deddfwriaeth gysylltiedig.

Fel rhan o drefniant cydweithio cyflawnir ar ein rhan nifer o’r swyddogaethau iechyd anifeiliaid gan swyddogion o fewn Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys.

Mae’r swyddogaethau a gyflawnir gan Gyngor Powys o fewn Blaenau Gwent yn cynnwys y canlynol:

  • Arolygiadau a raglennir o safleoedd Iechyd a Lles Anifeiliaid ac unrhyw  orfodaeth yn deillio o hynny fel y bo angen
  • Ymateb i’r holl gwynion/ymholiadau yn ymwneud â materion Iechyd a Lles Anifeiliaid.
  • Ymgymryd â holl swyddogaethau trwyddedu anifeiliaid (e.e. trwyddedu siopau anifeiliaid anwes, trwyddedau sefydliadau magu cŵn, ayyb.)
  • Yr holl gofnodion data, cadw cofnodion sy’n ofynnol i Gyngor Blaenau Gwent eu cyflawni parthed Iechyd a Lles Anifeiliaid ar gyfer yr ardaloedd a restrir uchod
  • Arwain yn yr ymchwiliadau i’r holl glefydau hysbysadwy ar gyfer Iechyd Anifeiliaid.

Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn ymdrechu i gydymffurfio â’n dyletswyddau i gyfrannu tuag at amgylchedd diogel, iach a theg a monitro a dylanwadu ar y driniaeth gaiff anifeiliaid, gan orfodi safonau cymwysadwy lle bo’n briodol.

Os oes gennych gŵyn yn ymwneud ag anifeiliaid anwes a/neu geffylau, yna dylid hysbysu'r mater i'r RSPCA ar 0300 1234 999 neu sefydliad/elusen lles anifeiliaid arall addas.

Gwybodaeth Gyswllt

 

Am wybodaeth bellach, ynghylch unrhyw rai o’r uchod, neu ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, os gwelwch yn dda cysylltwch â Chyngor Sir Powys ar  safonau.masnach@powys.gov.uk neu fel arall ffoniwch 01874 624704.

Am unrhyw ymholiadau brys neu hysbysiadau o glefydau ar gyfer Iechyd Anifeiliaid, os gwelwch yn dda, ffoniwch Linell Frys Cyngor Sir Powys ar 0845 6027030. (Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 5c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn).

 

*Sef safleoedd sydd naill ai ganddynt neu y dylai fod ganddynt un o'r trwyddedau anifeiliaid dilynol:-

  • Siop Anifeiliaid Anwes
  • Bridiwr Cŵn
  • Lletywr Anifeiliaid yn y Cartref
  • Sefydliad Lletya Anifeiliaid (h.y. Cathfa neu Genel)
  • Sefydliad Marchogaeth
  • Anifeiliaid Gwyllt Peryglus
  • Sw