Gorchymyn Diogelu Mannau 2025

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli Cŵn 2025

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cynnig adnewyddu a chyflwyno rhai rheolaethau newydd sy'n berthnasol i ymarfer cŵn a chlirio baw cŵn ar dir o fewn y fwrdeistref sirol ac mae'n croesawu sylwadau gan yr holl aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb.

Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?

Ar 1 Tachwedd 2022 cyflwynodd CBS Blaenau Gwent orchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn o fewn ei ardal a wnaeth greu ardaloedd eithrio cŵn, ardaloedd cŵn ar dennyn a’i gwneud yn drosedd i beidio symud baw ci unwaith mae ci wedi baeddu. Os yw perchnogion yn cyflawni trosedd ar hyn o bryd cânt gynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 yn lle erlyniad. Os nad ydynt yn derbyn neu ddim yn talu o fewn amser penodol, bydd hyn yn arwain at ymddangosiad llys.

Beth sy’n newid? 

Roedd y gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn a gyflwynwyd gan CBS Blaenau Gwent yn 2022 am gyfnod o 3 blynedd ac mae i ddod i ben yn ddiweddarach eleni.

Mae CBS Blaenau Gwent yn cynnig cyflwyno gorchymyn newydd diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn-

  1. Baeddu Tir gan Gŵn – bydd hyn yn gweithredu ar draws y fwrdeistref, lle bydd yn drosedd i beidio symud baw ci.
  2. Ardaloedd Eithrio Cŵn – bydd hyn yn weithredol ar gyfer ardaloedd penodol o dir a ddynodir gan gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd caniatáu ci i fynd i fewn i ardal a ddynodwyd fel ardal eithrio cŵn.
  3. Ardaloedd Ci ar Dennyn – bydd hyn yn weithredol i ardaloedd penodol o dir a ddynodir ar gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd i beidio cadw ci ar dennyn mewn ardal a ddynodwyd fel ardal cŵn ar dennyn.

Mae’r cynigion newydd ar gyfer safleoedd lle bydd ardaloedd eithrio cŵn neu gŵn ar dennyn i’w gweld yn y ddogfen gyfeirio a’r cynlluniau lleoliad a atodir.

Newidiadau amlwg o safleoedd presennol sydd yn ardaloedd eithrio cŵn neu gŵn ar dennyn-

Cynnig ardal newydd ar gyfer eithrio cŵn yn-

  • PSPO-DC-130- Ysgol Gynradd Chartist Way, Sirhywi, Tredegar. Mae ysgol gynradd newydd wedi'i hadeiladu y bwriedir iddi fod yn ardal gwahardd cŵn.
  • PSPO-DC-131- Ysgol Gynradd Glyncoed, Beaufort, Glynebwy. Mae ysgol gynradd newydd wedi'i hadeiladu y bwriedir iddi fod yn ardal gwahardd cŵn.  
  • PSPO-DC132- Ysgol Pen y Cwm, Uned 4 Llys Gwent, Glynebwy. Cynigiwyd ehangu cyfleusterau Pen y Cwm i fod yn ardal gwahardd cŵn.
  • PSPO-DC-133- Canolfan Ddysgu Abertyleri, Hen Ganolfan Gymunedol Cod Cae, Blaenau. Cynigiwyd ehangu Canolfan Ddysgu Abertyleri i fod yn ardal gwahardd cŵn.
  • PSPO-DC-134- Maes chwarae yn Chartist Way, Sirhywi, Tredegar. Cynigiwyd cyfleuster maes chwarae newydd i fod yn ardal gwahardd.

Safleoedd gwahardd arfaethedig i'w tynnu o'r gorchymyn presennol ac nad ydynt wedi'u cynnwys yng ngorchymyn newydd 2025-

  • PSPO-DC-010 – Maes chwarae yn Woodland Terrace, Abertyleri. Safle bellach ar gau
  • PSPO-DC-017 – Maes chwarae yn Stryd Vivian, Abertyleri. Safle bellach ar gau.
  • PSPO-DC-047 - Maes chwarae yn Attlee Road, Nant-y-glo. Safle bellach ar gau.
  • PSPO-DC-048 - Maes chwarae yng Nghroes y Garn, Nant-y-glo. Safle bellach ar gau.  
  • PSPO-DC-074 - Hen Ysgol Gynradd Glyncoed, Badminton Grove, Glynebwy. Safle bellach ar gau.  
  • PSPO-DC-085 - Ardal chwarae yn Darby Crescent, Hilltop, Glynebwy. Safle bellach ar gau.
  • PSPO-DC-101 Maes chwarae yn Chartist Way, Sirhywi, Tredegar. Safle bellach ar gau.

Pa dir a ddaw o fewn Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?

Bydd agwedd baw cŵn gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus yn weithredol ar gyfer y tir sydd ar agor i’r aer ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo o fewn ardal Blaenau Gwent.

Mae’r ardaloedd a gynigir ar gyfer eithrio cŵn a’r ardaloedd cŵn ar dennyn yn cyfeirio at ardaloedd penodol o dir a amlinellir gan y cynlluniau lleoliad a’r ddogfen cyfeirio isod.

Gellir hefyd weld y cynlluniau yn y swyddfa isod rhwng dydd Llun – Gwener rhwng 9am-5pm.

Y Tîm Gorfodi Rheng Flaen, CBS Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

Beth yw’r gosb am fethu cydymffurfio gyda Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus?

Mae CBS Blaenau Gwent yn cynnig parhau i gynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 am droseddau a gynhwysir o fewn gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus. Bydd methu’r hysbysiad cosb sefydlog yn arwain at i’r awdurdod gymryd camau gweithredu cyfreithiol a all arwain at uchafswm dirwy o lefel 3 ar y raddfa sylfaenol, sy’n £1.000 ar hyn o bryd.

Y broses ymgynghori 

Mae gan y cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori ar y gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus a gynigir ar gyfer mesurau rheoli cŵn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Mercher 3 Medi 2025 tan ddydd Mercher 17 Medi 2025. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn penderfynu p’un ai i wneud unrhyw newidiadau neu symud ymlaen i gadarnhau’r gorchymyn.

Sut mae rhoi sylwadau ar y cynigion?  

Os hoffech roi sylwadau ar y gorchmynion a gynigir ar gyfer diogelu mannau cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn, anfonwch e-bost neu ysgrifennu atom erbyn dydd Mercher 17 Medi 2025 yn defnyddio’r manylion cyswllt islaw.

E-bost: frontline@blaenau-gwent.gov.uk

Ysgrifennwch at: Tîm Gorfodi Rheng Flaen, Swyddfa Wastraff, Ystâd Ddiwydiannol Barleyfields, Nant-y-glo, Blaenau Gwent NP23 4YF.

Dogfennau Cysylltiedig