Mae Hwb Cymorth Teuluoedd Blaenau Gwent yn darparu cyngor, gwybodaeth a chanllawiau am ddim ac yn ddi-duedd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol megis:
- Darparwyr gofal plant cofrestredig
- Gyrfaoedd ym maes y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae
- Help gyda chostau gofal plant
- Grwpiau rhieni a phlant bach
- Digwyddiadau / gweithgareddau hamdden lleol sy’n addas i’r teulu
- Gwybodaeth am ardaloedd Dechrau’n Deg
- Teuluoedd yn Gyntaf
- Adnoddau a Gwasanaethau i Gefnogi eich Teulu
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol:
Facebook: https://www.facebook.com/bgfis
Instagram: https://www.instagram.com/blaenau_gwent_fis/
Threads: https://www.threads.com/@blaenau_gwent_fis
Cysylltwch â ni
Gallwch ein ffonio ar 01495 369610.
Bydd rhywun ar gael o ddydd Llun i ddydd Iau (9am – 5pm) a dydd Gwener (9am – 4pm).
Fel arall, gallwch e-bostio FIS@Blaenau-Gwent.gov.uk neu anfon neges atom trwy un o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Blaenau Gwent wedi’i leoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Stryd Fawr, Blaenau, Blaenau Gwent, NP13 3BN.
Cwestiynnau Cyffredin
Pa gymorth sydd ar gael i’m helpu i dalu am ofal plant?
Dewch o hyd i’r holl gynlluniau sydd ar gael yma: https://www.gov.wales/get-help-paying-childcare
Pa fudd-daliadau ydw i’n gymwys ar eu cyfer ar ôl cael plant?
Darganfyddwch beth rydych yn gymwys ar ei gyfer yma: https://www.gov.uk/benefits-calculators. Neu ffoniwch Linell Gymorth Budd-daliadau Cyngor ar Bopeth ar 0800 702 2020.
Sut ydw i’n darganfod a ydw i mewn ardal Dechrau’n Deg?
E-bostiwch: FIS@blaenau-gwent.gov.uk gyda’ch enw llawn; eich cyfeiriad llawn; enw eich plentyn bach; a’u dyddiad geni.
Pryd mae angen i mi wneud cais am le yn y feithrinfa neu’r dosbarth derbyn?
Dewch o hyd i’r holl ddyddiadau perthnasol yma: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/schools-learning/school-admissions/nursery-admissions/.
Mae gen i bryderon am blentyn
Ewch i: http://www.gwentsafeguarding.org.uk/ neu ffoniwch ein tîm Gwybodaeth a Chyngor ar 01495 315700 a dewiswch opsiwn 2 ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.
Sut ydw i’n dod o hyd i ofal plant yn fy ardal?
Ewch i: https://www.childcareinformation.wales/?locale=en-GB
Beth alla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn cysylltu â’r Ganolfan Cymorth i Deuluoedd?
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwch yn derbyn gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol. Bydd eich ymholiad yn cael ei gadw’n gyfrinachol, a byddwn yn gwneud ein gorau i ateb eich cwestiynau a rhannu gwybodaeth ddefnyddiol. Os bydd angen, byddwn yn eich tywys at wasanaethau eraill am gymorth pellach.
Cylchlythyrau
Archwiliwch ein Cylchlythyrau Tymhorol isod: