Canllaw ar ofalu am gyn-filwyr y Lluuoedd Arfog

Mae gofalu o fewn cymuned cynfilwyr y Lluoedd Arfog, p’un a ydych chi’n ofalwr neu’n derbyn gofal, yn gallu cyflwyno rhywfaint o heriau y chwanegol.

Efallai eich bod chi wedi dod o ddiwylliant yn y fyddin lle rydych chi wedi ymdopi â risgiau difrifol a’ch bod chi, drwy fod yn gyn-filwr, yn gyfarwydd â hunangynhaliaeth ac aberth. Gallech chi fod yn amharod i gyfaddef unrhyw wendid oherwydd eich bod chi wedi arfer bwrw ‘mlaen â phethau. Efallai hefyd, y bu adegau mewn gwasanaeth lle’r ydych chi wedi bod i ffwrdd o’ch teulu a’ch ffrindiau, ac wedi colli cysylltiad gyda’r rheiny a allai helpu. Mae’n bwysig felly, eich bod chi’n gwybod ble allwch chi fynd i gael y cymorth cywir, os bydd ei angen arnoch.

Gyda chefnogaeth gan Project 360 a chyllid elusennol LIBOR, mae Gofalwyr Cymru wedi cynhyrchu canllaw ar gyfer Cyn-Filwyr lluoedd y DU yng Nghymru

Canllaw ar ofalu am gyn-filwyr y Lluuoedd Arfog

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Adnabod fel gofalwr
  • Cefnogaeth ariannol
  • Cefnogaeth ymarferol
  • Rheoli materion rhywun
  • Technoleg i gynorthwyo yn eich rôl ofalu
  • Cefnogaeth fel Cyn-filwr Milwrol
  • Gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer ble i gael cefnogaeth

Am fwy o wybodaeth:

Gwefan:  www.carerswales.org
Facebook:  www.facebook.com/CarersWales  
Twitter:  @CarersWales