Dechreuwch ailgylchu gartref
Mae'r rhan fwyaf o aelwydydd ym Mlaenau Gwent yn ailgylchu eu gwastraff bob wythnos.
Os nad ydych chi'n ailgylchu eto, gallwn eich helpu i ddechrau arni.
Cystadlu â’ch cymdogion
Cystadlu â’ch cymdogion yw ymgyrch ailgylchu Blaenau Gwent.
Mae'r ymgyrch yn annog trigolion i ddefnyddio'r gwasanaethau ailgylchu sydd ar gael ym Mlaenau Gwent.
Mae'r rhan fwyaf o aelwydydd eisoes yn ailgylchu'n rheolaidd. Os nad ydych chi'n ailgylchu eto, nawr yw'r amser iawn i ddechrau.
Cael cymorth i ddechrau ailgylchu
Gallwn eich helpu i:
- deall beth allwch a beth na allwch ei ailgylchu
- dod o hyd i'ch diwrnod casglu
- archebu cynwysyddion ailgylchu
- amnewid cynwysyddion sydd wedi'u difrodi neu ar goll
- ateb cwestiynau am wasanaethau ailgylchu
Rheolau ailgylchu
Dylech roi eitemau y gellir eu hailgylchu yn y cynwysyddion ailgylchu cywir.
Os byddwch yn parhau i roi deunyddiau ailgylchu yn eich bagiau duon neu yn eich bin, efallai y byddwn yn cymryd camau gweithredu.
Gall hyn gynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.
Os na chaiff yr Hysbysiad Cosb Benodedig ei dalu, gellir cymryd camau gweithredu pellach drwy'r llysoedd.
Dolenni defnyddiol
Sut i ailgylchu'n gywir
Darganfyddwch beth allwch ei ailgylchu a sut i ddidoli eich deunyddiau ailgylchu.
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/recycling/
Dod o hyd i'ch diwrnod casglu
Gwiriwch pryd y caiff eich deunyddiau ailgylchu a'ch gwastraff eu casglu.
Archebu biniau a chynwysyddion ailgylchu
Archebwch gynwysyddion ailgylchu newydd neu rai i gymryd lle rhai presennol.
Casglu cewynnau a gwastraff hylendid
Darganfyddwch a yw'r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer eich cartref.
https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/waste-recycling/absorbent-hygiene-products-collections/
Gwastraff gardd
Dysgwch am gasgliadau gwastraff gardd a sachau ar gyfer gwastraff gardd.